Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cymunedau ar gyfer Gwaith a Mwy
Mae’n tîm o Fentoriaid Cyflogaeth yn darparu cymorth mentora a chyflogaeth 1-i-1 yn y gymuned gan helpu pobl i hyfforddi ac uwchsgilio a’u grymuso i feithrin yr hyder a'r profiad sydd eu hangen arnynt i wneud cais am y swyddi y maent eu heisiau.
Peidiwch â phoeni am feini prawf cymhwysedd. Bydd ein Gweithwyr Brysbennu yn gwneud hyn i chi a bydd un o'n haelodau tîm neu bartneriaid bob amser ar gael i gynorthwyo.
Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cefnogi trigolion lleol sy'n ddi-waith neu sydd mewn perygl o gael eu diswyddo i fynd yn ôl i'r gwaith. Mae’n prosiect yn wirfoddol ac rydym yn helpu pobl sy'n barod i weithio mewn cyflogaeth, drwy ddarparu cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant un i un. Gallwn eich helpu i fagu hyder, ennill profiad gwaith, dysgu sgiliau Newydd a gwella'ch CV. Mae Cymunedau ar Gyfer Gwaith a Mwy yn cael ei ariannu drwy Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Cyflwynir y prosiect gan Dîm Cyflogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Sut gallwn ni helpu
Cynigir cefnogaeth 1-i-1, mewn lleoliad lleol yn eich cymuned, fel Hyb Canol y Dref (wrth ymyl The Works), eich llyfrgell leol neu ganolfan gymunedol. Mae'r cymorth a ddarperir wedi'i deilwra i weddu i'ch anghenion unigol a'ch helpu i gyflawni’ch nodau cyflogaeth tymor byr a hir. Rydym yn cefnogi pobl i uwchsgilio ac ennill mwy o brofiad yn eu maes dewisol, gyda'r nod o gefnogi pobl i'w rolau gwaith dymunol.
Cymorth Cyflogaeth
- Mentora 1-i-1 i'ch cefnogi i mewn i waith, gam wrth gam
- Cefnogaeth i ysgrifennu CV, llythyrau eglurhaol, cwblhau ceisiadau a gwneud cais am waith
- Cefnogaeth i gael mynediad at hyfforddiant wedi'i ariannu i gynyddu eich cyfleoedd cyflogaeth Help i nodi a chynllunio llwybr ar gyfer eich llwybr gyrfa dewisol
- Magu hyder a chwalu rhwystrau i gyflogaeth
- Help i greu cyfrif Credyd Cynhwysol a diweddaru'ch cyfnodolyn
- Paratoi cyfweliad
- Help i ddod o hyd i brentisiaeth
- Cefnogaeth i ddod o hyd i waith cyflogedig a dechrau
Cymorth Hyfforddi
Efallai y byddwch yn gymwys i gael mynediad at hyfforddiant wedi'i ariannu drwy'r rhaglen CiW+. Gallwn ddarparu ystod eang o hyfforddiant, wedi'i deilwra i chi. Megis:
- Cymorth Cyntaf
- Cerdyn CSCS ac Iechyd a Diogelwch yn yr Amgylchedd Adeiladu
- Codi a Chario
- Hyfforddiant Dumper / Roller
- Hylendid Bwyd - Lefel 2
- COSHH
- Diogelu
Cymorth Ychwanegol
- Mae potyn bach o arian dewisol ar gael i gyfranogwyr oresgyn rhwystrau i waith, er enghraifft cymorth i ariannu costau traul/PPE a theithio
- Help gan ein Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth i gyd-fynd â swyddi gwag â chyflogwyr lleol
- Help â chyfrifiaduron a mynd ar-lein
- Cefnogaeth gyda sgiliau hanfodol (Adult Community Learning (ACL)
- Cyfrifiadau gwell eu byd
- Help â hyder a chymhelliant
- Cefnogaeth i unigolion ag anableddau a chyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar waith
Cefnogaeth ar gael i gyflogwyr
Os ydych chi'n gyflogwr, gall chwilio am staff gymryd llawer o amser. Rydym yn darparu cefnogaeth am ddim i gyflogwyr lleol ddod o hyd i'r ymgeiswyr cywir a thorri iar amser a chost y broses recriwtio:
- Un pwynt cyswllt i weithio'n agos gyda chi i ddod o hyd i'r ymgeiswyr cywir gyda'r sgiliau a'r hyfforddiant gofynnol, i fodloni eich manyleb swydd
- Cyfweliad cyn-sgrinio ymgeiswyr i sicrhau bod yr ymgeisydd yn addas
- Treialon gwaith
- Cymorth gwaith ar gyfer y cyflogwr a'r gweithiwr
- Hyfforddiant cyn-gyflogaeth a ddarperir os oes angen
- Darparu PPE am ddim
- Gwybodaeth a chyngor ar gyfleoedd ariannu
Pwy rydyn ni wedi helpu
Coming Up Roses – cyfranogwr i'r gwaith
Diolchodd Camille i Cymunedau am Waith a Mwy am ei helpu i ddechrau ei swydd ddelfrydol yn Flowers by Hamilton. Eglurodd ei bod wrth ei bodd â'i swydd newydd ac yn mwynhau gweithio ochr yn ochr â Karen sydd wedi bod mor gefnogol i'w mentora a'i hyfforddi. "Dwi'n teimlo mod i jyst yn slotio mewn fel roedd e i fod".
Cysylltu
Os hoffech gael gwybod mwy am gymorth i chi'ch hun neu rywun rydych yn ei gefnogi, ffoniwch ni ar 01685 725364 neu gallwch anfon e-bost atom yn C4wmailbox@merthyr.gov.uk Fel arall, gallwch edrych ar ein tudalen Facebook yn Cymunedau am Waith a Merthyr Tudful - Facebook i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau.
Os hoffech atgyfeirio'ch hun neu rywun rydych chi'n ei gefnogi i'r prosiect, llenwch ein ffurflen atgyfeirio isod: