Ar-lein, Mae'n arbed amser
Diffiniad o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
'Anghenion Dysgu ychwanegol' neu 'ADY'
- Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo ef neu hi anhawster dysgu neu anabledd (p'un a yw'r anhawster dysgu neu'r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol neu fel arall) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol
- Mae gan blentyn o oedran ysgol gorfodol neu berson dros yr oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd os yw'n:
- yn cael anhawster sylweddol fwy o ran dysgu na'r rhan fwyaf o bobl eraill o'r un oedran, neu
- gyda anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 sy'n ei atal neu'n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau ar gyfer addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol i eraill o'r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.
Mae gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw ef, neu pe na bai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud, yn debygol o fod o fewn is-adran (2) pan fydd o oedran ysgol gorfodol.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol" neu "DDdY"
- ystyr "darpariaeth ddysgu ychwanegol" ar gyfer person tair oed neu hŷn yw darpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy'n ychwanegol at, neu'n wahanol i, a wneir yn gyffredinol i eraill o'r un oed mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru, sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu leoedd yng Nghymru lle darperir addysg feithrin.
- ystyr "darpariaeth ddysgu ychwanegol" ar gyfer plentyn o dan dair oed yw darpariaeth addysgol o unrhyw fath
- ystyr "addysg feithrin" yw addysg sy'n addas i blentyn sydd wedi cyrraedd tair oed ond sydd o dan oedran ysgol gorfodol
Wrth wneud y penderfyniad os oes angen CDU ar y person ifanc, bydd yr ysgol yn ystyried a oes gan y disgybl ADY sy'n gofyn am ADY. Gall DDdY fod ar sawl ffurf; Gellir darparu'r cymorth mewn grwpiau bach, darpariaeth unigol neu bwrpasol. Fel arfer, darperir hyn drwy adnoddau'r ysgol ond gall gynnwys cymorth a chyngor/gwasanaeth gan y Gwasanaeth ADY a Chynhwysiant yr Awdurdod Lleol.
Gall DDdY ar gyfer y rhai o dan dair oed fod ar sawl ffurf; Er enghraifft, gwaith grŵp neu gymorth unigol - lle mae'r disgybl yn mynychu darpariaeth addysgol o unrhyw fath. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, cymorth iechyd arbenigol, corfforol, cyfathrebu neu synhwyraidd yn eu lleoliad addysg.
Mae Gwasanaethau ADY a Chynhwysiant yr Awdurdod Lleol yn gweithio ar y cyd â'r person ifanc / rhieni/gofalwyr / ysgolion ac asiantaethau eraill gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth i ddisgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) neu a allai fod ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).