Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwasanaeth Addysg Seicoleg

Mae llawer o blant a phobl ifanc yn profi problemau gyda’u datblygiad a’u haddysg ar ryw bwynt yn ystod eu bywydau. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gwella gyda chymorth eu teuluoedd, eu hysgolion a’u cyfeillion. Gall Seicolegydd Addysgol gynnig cyngor ychwanegol os ydy ysgolion neu deuluoedd yn cael trafferth i helpu’r plentyn i wella. Ein swydd ni yw asesu anghenion y disgyblion hyn a’u cynghori nhw, eu rhieni/gofalwyr, lleoliad addysgol neu’r Cyngor ynghylch y ffordd orau i’w helpu.

Mae gan bob ysgol a lleoliad cyn-ysgol gefnogaeth gan seicolegydd addysgol – arbenigwr yn y ffordd y mae plant a phobl ifanc yn datblygu ac yn dysgu. Maent yn cynnig ymgynghoriadau, asesiadau, cyngor a chefnogaeth i ddisgyblion, rhieni/gofalwyr ac athrawon mewn achos lle mae gofid ynghylch datblygiad, ymddygiad neu’r modd y mae’r plant neu bobl ifanc yn dysgu. Dim ond wedi iddynt dderbyn caniatâd gan y rhieni/gofalwyr y bydd seicolegwyr addysgol yn gweithio gyda disgyblion.

Os ydy rhieni/gofalwyr yn pryderi fod gan eu plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol dylent, yn y lle cyntaf, siarad gyda Chydlynydd Anghenion Addysgol Ychwanegol yr ysgol neu’r lleoliad cyn-ysgol. Bydd yr ysgol neu’r lleoliad cyn-ysgol yn gallu ymyrryd a chadw golwg ar gynnydd y plentyn. Os ydy’r anawsterau’n parhau, a gyda chaniatâd y rhieni, gall y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig roi gwybod i’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol. Os ydy rhiant/ gofalwr plentyn ifanc iawn yn bryderus, awgrymir eu bod yn cychwyn trafodaeth gyda’u hymwelydd iechyd neu ddoctor.

Fel arfer, mae seicolegwyr addysgol yn gweithio gyda disgyblion, teuluoedd ac athrawon mewn ysgol neu o fewn y lleoliad cyn-ysgol. Maent yn gwneud hwn mewn sawl ffordd, drwy ddilyn Model y Llwybr Seicoleg Addysgol (gweler isod). Gall cyswllt gyda Seicolegydd Addysgol gynnwys:

  • Trafodaeth gyda disgyblion, eu rhieni/gofalwyr, athrawon ac eraill sy’n eu hadnabod yn dda (yn y cnawd, drwy Linell Cymorth Seicoleg Addysgol, o bell, neu mewn cyfarfodydd Ymgynghoriad Grŵp).
  • Trafodaeth mewn cyfarfod amlasiantaethol Tîm o Amgylch y Plentyn.
  • Arsylwi’r plentyn yn ei ystafell ddosbarth neu ar yr iard.
  • Adolygu’r gwaith maent wedi bod yn ei wneud yn y dosbarth.
  • Siarad gyda’r plentyn er mwyn gweld beth yw ei farn / ei barn.
  • Asesiad a sgrinio i wirio lles, sgiliau ac/neu’r ffordd y mae’r plentyn yn dysgu.

Gallant weld pa fodd y mae’r plentyn yn ymateb i’r hyn wnaethant ei argymell. Mae Seicolegwyr Addysgol yn cynnig awgrymiadau i rieni/gofalwyr ynghylch sut gallant gefnogi lles, datblygiad ac addysg y plentyn.

Fel arfer wrth gynnig cyngor i athrawon, maent yn awgrymu ffyrdd o wella lles ac ymddygiad y plentyn a’r modd y maent yn dysgu yn ogystal â ffyrdd o helpu plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu i ymdopi gyda gwaith yn y dosbarth.

Yr ysgol yw’r lle gorau i drafod a oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol (ALN yn Saesneg), ai peidio. Byddant yn egluro’r dull o weithredu a pha gamau a gymerir nesaf, os yn berthnasol, er mwyn helpu eich plentyn. Bydd yr ysgol yn egluro beth yn union sy’n digwydd ar wahanol adegau o’r broses Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Cysylltwch â Ni