Ar-lein, Mae'n arbed amser
Arian Ewropeaidd - Rhaglenni Dysgu Gydol Oes
Mae’r Rhaglen Dysgu Gydol Oes (LLP) yn darparu cyfleoedd i sefydliadau, staff a dysgwyr sy’n ymwneud ag addysg a hyfforddiant ledled Ewrop i gydweithio, dysgu o arbenigedd ei gilydd ac ehangu’u profiad o ddiwylliannau ac ieithoedd eraill.
Mae’r gwaith a wneir trwy brosiectau a ariennir gan LLP hefyd yn helpu i ddatblygu a ffurfio tirwedd addysg a hyfforddiant yn y DU.
Mae’r LLP wedi’i hariannu gan y Comisiwn Ewropeaidd ac mae’n cefnogi ystod o weithgareddau addysg a hyfforddiant ledled Ewrop ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer pob cam o ddysgu gydol oes. Caiff miloedd o brosiectau eu hariannu yn y DU pob blwyddyn.
Mae sawl rhaglen wedi’u cynnwys yn y LLP, pob un wedi’i hanelu at grŵp targed penodol:
- Ysgolion - Comenius ac eTwinning
- Addysg Uwch – Erasmus
- Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol – Leonardo
- Addysg i Oedolion (nad yw’n alwedigaethol_ - Grundtvig
- Gweithwyr dysgu proffesiynol – Transversal
Gweler rhagor o wybodaeth am bob un o’r rhaglenni isod.
Grundtvig
Mae Grundtvig yn ariannu cyfleoedd i sefydliadau, staff a dysgwyr addysg oedolion yn y DU. Mae arian ar gael ar gyfer unrhyw sefydliad yn y DU sy’n ymwneud ag addysg i oedolion nad yw’n alwedigaethol.
Prosiectau Cyfleoedd Symudedd i Fusnesau Corfforaethol Bach
Mr DU i ymweld â gwledydd eraill yr UE am:
- Gyrsiau hyfforddi
- Cynadleddau neu seminarau
- Cysgodi swyddi (hyd at 3 mis)
- Lleoliadau gwaith (3-10 mis)
Anfon staff hefyd i:
Gwrdd â phartneriaid o Ewrop ar gyfer gwaith prosiect yn y dyfodol
Gan ddefnyddio arian i sefydliadau yn y DU rannu arbenigedd o ran addysg oedolion ledled Ewrop gallwch:
- Ddatblygu Partneriaethau â sefydliadau eraill yn Ewrop
- Cynnal prosiect cyfnewid ar gyfer gwirfoddolwyr hŷn (50+oed)
- Cynnal gweithdai ar gyfer oedolion sy’n ddysgwyr
Prosiectau Busnesau Corfforaethol Mawr – Sut i ymgeisio
Arian i sefydliadau DU profiadol weithio gyda phartneriaid o’r UE i:
- Ddatblygu deunyddiau dysgu newydd
- Rheoli Rhwydweithiau Ewropeaidd
Gwneud cais am arian:
- Isddarlithyddiaethau
- Hyfforddiant mewn swydd
- Gweithdai dysgwyr
- Prosiectau Amlochrog
- Rhwydweithiau
- Partneriaethau
- Ymweliadau paratoadol
- Gwirfoddoli Hŷn
- Ymweliadau a Chyfnewidiadau
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Grundtvig trwy’r adran dolenni allanol ar ochr dde’r dudalen hon.
Leonardo
Mae Leonardo’n ariannu cyfleoedd i sefydliadau, staff a dysgwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn y DU. Mae arian ar gyfer unrhyw sefydliad yn y DU sy’n ymwneud ag addysg a hyfforddiant galwedigaethol.
Prosiectau Cyfleoedd Symudedd i Fusnesau Corfforaethol Bach
Arian i sefydliadau yn y DU:
- Anfon dysgwyr a staff ar leoliadau gwaith ledled Ewrop
Hefyd anfon staff i
- Gwrdd â phartneriaid o Ewrop ar gyfer gwaith prosiect yn y dyfodol
Arian i sefydliadau yn y DU rannu arbenigedd o ran addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Ewrop
Gallwch:
- Ddatblygu partneriaethau â sefydliadau yn Ewrop
Prosiectau Busnesau Corfforaethol Mawr – Sut i ymgeisio
Arian i sefydliadau profiadol yn y DU weithio gyda phartneriaid yn Ewrop i:
- Addasu arfer arloesol i’w ddefnyddio mewn sefydliadau newydd
Gallwch hefyd:
- Ddatblygu deunyddiau dysgu newydd
- Rheoli rhwydweithiau Ewropeaidd
- Gwneud cais am grantiau:
- Prosiectau Symudedd
- Prosiectau Amlochrog
- Rhwydweithiau
- Partneriaethau
- Ymweliadau paratoadol
- Trosglwyddo Arloesedd
Mae’r rhaglen Leonardo’n cefnogi datblygiad sgiliau a hyfforddiant. Mae’n ariannu lleoliadau gwaith i hyfforddeion, gweithwyr a staff ac yn cefnogi prosiectau Ewropeaidd i drafod materion cyffredin neu ddatblygu deunyddiau hyfforddi, cyrsiau a fframweithiau. Mae’r rhaglen ar gael i’r holl sefydliadau yn y DU sy’n ymwneud ag addysg a hyfforddiant yn y gweithle a gall eich helpu i adeiladu gweithlu medrus. Mae prosiectau’n ymwneud â gweithio gyda phartneriaid o Ewrop ac yn cynnig profiad gwych i staff a dysgwyr a manteision sefydliadol hirdymor.
Comenius
Comenius yw rhaglen addysg yr Undeb Ewropeaidd i ysgolion a cholegau. Mae’n ariannu cydweithredu rhwng disgyblion ac athrawon ledled Ewrop ac yn cefnogi gwelliant a chyrhaeddiad ysgol. Mae Rhaglen Comenius yn canolbwyntio ar bob lefel o addysg ysgol, o oedran cyn-ysgol ac ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd. Mae’n berthnasol i bawb sy’n ymwneud ag addysg ysgol, yn bennaf disgyblion ac athrawon ond hefyd awdurdodau lleol, cynrychiolwyr o gymdeithasau rhieni, sefydliadau anllywodraethol, athrofeydd hyfforddi athrawon a phrifysgolion.
Fel rhan o Raglen Dysgu Gydol Oes yr UE, nod Comenius yw helpu pobl ifanc a staff addysg i feddu ar ddealltwriaeth well o ddiwylliannau, ieithoedd a gwerthoedd Ewrop. Maent hefyd yn helpu pobl ifanc i gael y sgiliau bywyd sylfaenol a’r cymwyseddau angenrheidiol ar gyfer datblygiad personol, cyflogaeth yn y dyfodol a dinasyddiaeth weithredol.
Mae gan Comenius y nodau canlynol:
- Gwella a chynyddu symudedd disgyblion a staff addysg mewn gwahanol Aelod Daleithiau
- Cyfoethogi a chynyddu partneriaethau rhwng ysgolion mewn gwahanol Aelod Daleithiau, gydag o leiaf tair miliwn o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau addysg ar y cyd erbyn 2010
- Annog dysgu iaith, cynnwys TGCh arloesol, gwasanaethau a thechnegau ac arferion addysgu gwell
- Cyfoethogi ansawdd a’r dimensiwn Ewropeaidd mewn hyfforddiant athrawon
- Gwella dulliau addysgeg a rheoli ysgol
Erasmus
ERASMUS yw prif raglen addysg a hyfforddiant yr UE, gan alluogi 200,000 o fyfyrwyr i astudio a gweithio mewn gwlad dramor bob blwyddyn. Yn ogystal, mae’n ariannu cydweithredu rhwng sefydliadau addysg uwch ledled Ewrop. Yn ogystal â chefnogi myfyrwyr, mae’r rhaglen hefyd yn cefnogi athrawon a staff busnes sy’n dymuno addysgu mewn gwlad dramor, yn ogystal â helpu staff prifysgolion i gael hyfforddiant. Mae Erasmus yn cynnwys cefnogaeth i Fyfyrwyr/Prifysgolion/staff sefydliadau addysg uwch:
- Astudio mewn gwlad dramor
- Gwneud swydd hyfforddiant mewn gwlad dramor
- Paratoi ieithyddol
- Addysgu mewn gwlad dramor
- Cael hyfforddiant mewn gwlad dramor
Prif ysgolion/sefydliadau addysg uwch yn gweithio trwy:
Busnes:
- Rhaglenni dwys
- Rhwydweithiau academaidd a strwythurol
- Prosiectau amlochrog
- Cynnal lleoliadau myfyrwyr
- Addysgu mewn gwlad dramor
- Cymryd rhan mewn prosiectau cydweithio â Phrifysgolion
Rhaid i sefydliadau addysg uwch sy’n dymuno cymryd rhan mewn gweithgareddau ERASMUS gael Siarter Prifysgol ERASMUS. Nod y Siarter yw sicrhau ansawdd y rhaglen trwy osod egwyddorion sylfaenol penodol.
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn gyfrifol am weithrediad cyffredinol y rhaglen; mae ei Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Addysg a Diwylliant yn cydlynu’r gweithgareddau gwahanol.