Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwyddedau Adloniant a Chyflogaeth Plant

Trwydded Perfformio Plant

Pryd fydd angen Trwydded Perfformio ar Blentyn?

  • Bydd angen trwydded ar bob plentyn o’u genedigaeth hyd at ddiwedd eu haddysg orfodol. Diffinnir hyn fel y Dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd y maent yn troi’n 16 oed.
  • Pan fydd newid yn cael ei wneud o ran y perfformiad. Mae hyn yn gymwys os yw’r perfformwyr yn cael eu talu ai peidio.
  • Pan fydd y perfformiad yn cael ei gynnal mewn safle neu glwb trwyddedig.
  • Pan fydd y perfformiad yn cael ei recordio a’i ddarlledu neu ei arddangos (er enghraifft ar y teledu, radio, ffilm, rhyngrwyd ac ati.)

TrwyddedHebryngwr

Mae’n rhaid i blant sydd yn cymryd rhan mewn perfformiadau neu adloniant o dan drwydded yr awdurdod lleol gael eu harolygu gan hebryngwr sydd wedi cael ei gymeradwyo, oni bai eu bod yng ngofal rhiant neu diwtor sydd wedi cael ei gymeradwyo. 

Cyfrifoldeb cyntaf yr hebryngwr yw at y plentyn sydd yn ei ofal. Mae’n gyfrifol am ddiogelu, cynorthwyo a hybu llesiant y plentyn ac ni ddylai gyfranogi mewn unrhyw weithgaredd allai amharu ar ei gyfrifoldebau.

Er mwyn gwneud cais am drwydded hebryngwr, mae’n rhaid i ymgeisydd fod dros 18 oed a meddu ar dystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae trwyddedau hebryngwr yn ddilys am dair blynedd. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn adnewyddu’r drwydded ar ddiwedd y cyfnod hwn gan nad ydym yn anfon llythyron i’ch atgoffa i’w hadnewyddu.  

Caniatâd Cyflogaeth Plentyn

Mae cyflogaeth plant yn cael ei amddiffyn gan reolau llym a rheoliadau sydd yn diogelu plant rhag unrhyw niwed a cham-fanteisio gan sicrhau nad oes effaith ar  iechyd ac addysg y plentyn. 

Mae’n rhaid i blentyn fod wedi cyrraedd ei 13fed pen-blwydd cyn y gall wneud cais am ganiatâd cyflogaeth.

Mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i bob plentyn (gan gynnwys plant y cyflogwr) sydd o oed addysg orfodol (y Dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’n troi’n 16 oed.) Nid yw derbyn Cerdyn a Rhif Yswiriant Cenedlaethol yn arwydd y gall plentyn gael swydd lawn amser a / neu adael yr ysgol.)

Sut i wneud cais

Gellir gweld rhagor o wybodaeth a gwneud cais drwy ddilyn y ddolen, isod.

Dylai ceisiadau gael eu hanfon at: Education.WelfareTeam@merthyr.gov.uk

 

Cysylltwch â Ni