Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gofal Plant Dechrau'n Deg

Mae pob plentyn sy’n byw ym Merthyr Tudful yn gymwys i dderbyn gofal plant wedi ei ariannu, o’r tymor sy’n dilyn eu hail ben-blwydd hyd at y tymor maent yn troi’n dair.

Dengys bod mynychu gofal plant o safon uchel, yn rhan amser ac yn rheolaidd yn gwella canlyniadau’n sylweddol i blant, ac rydym yn eich annog i fanteisio ar y cynnig hwn.

Mae gan blant yr hawl i sesiwn 2.5 awr y diwrnod, pum niwrnod yr wythnos, yn ystod y tymor ysgol yn unig. Mae’n bosib bod yno amodau arbennig, megis teuluoedd sy’n gweithio, a hoffai ddefnyddio dau sesiwn y diwrnod i gefnogi eu patrwm gwaith. Gallwch drafod hwn gyda’r sawl fydd yn darparu eich gofal plant Dechrau’n Deg.

Gweler ein hadran Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am ragor o wybodaeth – https://www.merthyr.gov.uk/resident/learning-in-merthyr-tydfil/early-years-flying-start/flying-start/frequently-asked-questions-flying-start-flying-start-phased-expansion/?lang=cy-GB&

Cam 1 – Ymuno a Rhaglen Dechrau’n Deg

Cofrestrwch i’r rhaglen Dechrau’n Deg drwy gyflwyno ffurflen gofrestri isod.

https://www.merthyr.gov.uk/do-it-online/request-or-apply/flying-start-registration-form/

Cam 2 – Gwnewch gais am ofal plant cyn oed ysgol i’ch plentyn Wedi ei Ariannu gan Dechrau’n Deg

Mae Dechrau’n Deg yn cynnig sesiynau o safon i blant cyn oed ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg – er mwyn cael gwybod beth yw manteision anfon eich plentyn i ddarparwyr gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg darllenwch ein taflen ynghylch dwyieithrwydd fan hyn – Taflen Bod yn Ddwyieithog

Dalier sylw, dim ond yn ystod y tymor bydd eich plentyn yn troi’n ddwy gall y tîm dderbyn cais am Ofal Plant – os ydych yn cyflwyno cais yn gynt na hynny ni fydd y system yn caniatáu i chi barhau. Er mwyn eich cynorthwyo i ddeall pryd gallwch wneud cais, gweler y tabl isod.

Dyddiadau Cymwys Dechrau’n Deg Cyn Oed Ysgol

Os cafodd eich plentyn ei eni rhwng Dyddiad Agor Ceisiadau Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Dyddiad Cychwyn Cymwys tan

1af Medi 2023 – 31ain Rhagfyr 2023

1af Medi 2025

17eg Hydref 2025 5ed Ionawr 2026 18fed Rhagfyr 2026

1af Ionawr 2024 – 31ain Mawrth 2024

1af Ionawr 2026 13eg Chwefror 2026 13eg Ebrill 2026 19eg Mawrth 2027

1af Ebrill 2024 – 31ain Awst 2024

1af Ebrill 2026 22ain Mai 2026 1af Medi 2026 20fed Gorffennaf 2027

Er mwyn eich cynorthwyo chi i benderfynu pa leoliad Gofal Plant hoffech anfon eich plentyn ato, gweler gwefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Merthyr Tudful yn y fan hon – https://www.merthyrfis.org/childcare/choosing-childcare/?lang=cy-GB&

Byddwch hefyd yn dod o hyd i restr o ddarparwyr Gofal Plant ym Merthyr yn y fan hon – https://www.merthyr.gov.uk/resident/learning-in-merthyr-tydfil/early-years-flying-start/flying-start/flying-start-childcare-settings/

Er mwyn gwneud cais am ofal plant cyn oed ysgol i’ch plentyn dilynwch y ddolen isod

https://schooladmissions.merthyr.gov.uk/CitizenPortal/cy/

Unwaith byddwn wedi prosesu eich cais byddwch yn derbyn e-bost gan y tîm Dechrau’n Deg drwy Borth Trigolion Merthyr Tudful gyda manylion eich cais – os oes unrhyw fanylion yn anghywir cysylltwch â’r tîm ar fyrder os gwelwch yn dda. Wedi i’ch cais gael ei dderbyn, bydd angen i chi gysylltu gyda lleoliad o’ch dewis er mwyn trefnu sesiwn ymgynefino i’ch plentyn a chwblhau’r gwaith papur sy’n ymwneud a chofrestri eich plentyn. Dalier sylw: bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch cyfeiriad – un ai bil Treth Gyngor yntau fil gan y gwasanaeth dŵr, trydan, gwres ac ati, bydd yn rhaid bod gan y bil ddyddiad arno sydd o fewn y tri mis diweddaf. Bydd yn rhaid i chi gyflwyno copi o dystysgrif geni eich plentyn i’r lleoliad gofal plant hefyd pan fyddwch yn mynychu’r sesiwn ymgynefino.

Presenoldeb – er mwyn i’ch plentyn wneud y gorau o’i brofiad Dechrau’n Deg rydym yn gofyn bod presenoldeb eich plentyn yn uwch na 75% - rydym yn deall bod plant yn profi salwch o fewn meithrinfeydd cyn oed ysgol a byddwn yn gwneud eithriad i’r rheol o ganlyniad i hynny, ond bydd methu a mynychu dros 75% yn barhaol yn golygu y bydd tîm gweinyddol Dechrau’n Deg yn cysylltu â chi i drafod unrhyw rwystrau rydych efallai’n eu hwynebu, gyda’r posibilrwydd o leihau nifer y sesiynau y trefnwyd ar gyfer eich plentyn neu o bosib yn tynnu eu lle oddi wrthynt.

Cam 3 – Ceisiadau Ysgol Feithrin

Unwaith bydd hawl eich plentyn i sesiynau Dechrau’n Deg yn dod i ben (tymor eu pen-blwydd yn dair) byddant yn gymwys am le Meithrin. Er mwyn gwneud cais am le Meithrin dilynwch y ddolen isod. Dalier sylw, bydd yn rhaid i unrhyw gwestiynau / ymholiadau ynghylch lle eich plentyn yn yr Ysgol Meithrin, fynd yn uniongyrchol at yr Adran Addysg: 01685 725000

Ceisiadau i leoliadau cyn-feithrin ac ysgol feithrin | Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful

Y Cynnig Gofal Plant – Pan fydd eich plentyn yn mynychu’r Ysgol Feithrin mae’n bosib y byddwch yn gymwys i 30 awr o Ofal Plant Yn Rhad ac am Ddim – dilynwch y ddolen ganlynol –  Cynnig Gofal Plant 30 Awr Llywodraeth Cymru | Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Os oes gennych unrhyw gwestiynau / ymholiadau ynghylch eich Hawl i Ddechrau’n Deg, cysylltwch â’r tîm drwy ffonio 01685 725000