Ar-lein, Mae'n arbed amser
Rhianta Dechrau’n Deg
Mae cymorth rhianta yn hawl penodol gyda Dechrau’n Deg.
Bydd pob rhiant/gofalwr sydd yn byw yn y dalgylch yn cael cynnig cymorth rhianta.
Mae hyn yn cynnwys, grwpiau rhianta a chymorth 1:1 yn y cartref.
Mae cynnig Rhianta Dechrau’n Deg , Merthyr Tudful yn seiliedig ar y 3 thema ganlynol:
- cymorth amenedigol ac yn y blynyddoedd cynnar
- ymyriadau er mwyn cynorthwyo rhieni sydd yn agored i niwed
- rhaglenni rhianta cadarnhaol i gynorthwyo rhieni
Mae gan y gwasanaethau dîm Ymgysylltu dynodedig a fydd yn canolbwyntio ar sicrhau fod llwybrau cymorth clir, amlwg ymysg yr holl bartneriaid, gan gynnwys holl hawliau eraill Dechrau’n Deg. Bydd rhaglenni’n cael eu harwain a’u darparu gan y Tîm Cymorth i Rieni a fydd yn derbyn cymorth gan Cymorth Barnados i’r Teulu a gan Weithwyr Iechyd NNEB.
Y cyrsiau rhianta sydd yn cael eu cynnal, ar hyn o bryd ym Merthyr Tudful yw:
- Incredible Years Baby / Blynyddoedd Anhygoel y Babi
- Incredible Years Toddler / Blynyddoedd Anhygoel y Plentyn Ifanc
- Incredible Years Basic / Blynyddoedd Anhygoel Sylfaenol
- EarlyBird
- Welcome to the World / Croeso i’r Byd
Am, ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Antony.Mee@merthyr.gov.uk 01685 727395 neu ewch i Positive Parenting (merthyrfis.org)