Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml - Dechrau'n Deg ac Ehangu Dechrau'n Deg

Cwestiynau Cyffredin

Dechrau’n Deg yw rhaglen y Blynyddoedd Cynnar wedi’i thargedu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd â phlant o dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae 4 elfen graidd i’r rhaglen am eu bod yn dylanwadu ar ganlyniadau cadarnhaol i blant a'u teuluoedd.

  • Gofal plant rhan-amser o safon am ddim i blant 2-3 oed;
  • Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd gwell;
  • Mynediad i Raglenni Magu Plant;
  • Datblygiad Iaith Cynnar.

Ydy, mae’r rhaglen Dechrau’n Deg yn ehangu, ac yn y pen draw bydd pob teulu ym Merthyr yn gymwys. Bydd y rhaglen yn cael ei hehangu gan ddefnyddio dull graddol. Cyflwynwyd Cam 1 yr ehangu ym mis Medi 2022, ac roedd gan deuluoedd cymwys hawl i bob un o 4 elfen graidd y rhaglen fel yr amlinellir yn C1 uchod.

Cyflwynwyd Cam 2(a & b) o’r ehangiad Dechrau’n Deg ym mis Ebrill 2023, fodd bynnag, dim ond yr elfen gofal plant o’r rhaglen Dechrau’n Deg y bydd teuluoedd cymwys sy’n byw yng nghodau post ehangu Cam 2 (a & b) yn gymwys i’w hawlio.

Nid yw cyfnodau ehangu'r dyfodol wedi'u cyhoeddi eto.

I weld a ydych yn byw mewn ardal Dechrau'n Deg, ewch i'r ddolen yng Nghwestiwn 3 isod.

Oes, gallwch wirio os ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg trwy wirio yma:

Flying Start Eligible Postcode Checker | Merthyr Tydfil County Borough Council

Os ydych chi’n gymwys, gallwch gwblhau ffurflen gofrestru a gwneud cais am le gofal plant Dechrau’n Deg:

What is Flying Start | Merthyr Tydfil County Borough Council

Rhaid byw mewn ardal cod post penodol Dechrau’n Deg. (gweler uchod)

Os ydych yn byw yn un o’r ardaloedd Dechrau’n Deg “gwreiddiol”, neu’r ardal ehangu Cam 1, bydd eich plentyn yn gymwys i gael mynediad i bob elfen o’r rhaglen o’i enedigaeth hyd at 4 oed.

Os ydych chi'n byw yn un o ardaloedd Cam 2, yna dim ond o'r tymor ar ôl ei ben-blwydd yn 2 oed, hyd at dymor ei 3ydd pen-blwydd, y bydd gan eich plentyn hawl i'r elfen gofal plant o'r rhaglen.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich cymhwysedd a’r hyn y mae gennych hawl i’w gael, yna cysylltwch â thîm Dechrau’n Deg drwy e-bost:Flyingstart@merthyr.gov.uk

Gallwch wirio os ydych yn gymwys ac yn byw mewn ardal cod post Dechrau’n Deg yma:

Flying Start Eligible Postcode Checker | Merthyr Tydfil County Borough Council

Os ydych yn byw mewn ardal ehangu Wreiddiol neu Gam 1, dylai eich Ymwelydd Iechyd roi gwybod i chi yn ystod ymweliad geni eich plentyn neu os byddwch yn symud i ardal Dechrau’n Deg yn ystod eich ymweliad trosglwyddo i mewn cychwynnol. Yn ystod yr ymweliadau hyn dylent eich annog i gofrestru gyda'r rhaglen drwy'r ffurflen ar-lein uchod.

Yn ystod ymweliad 15 mis eich plentyn bydd eich ymweliad iechyd yn eich annog i wneud cais am le gofal plant am ddim i’ch plentyn. Mae gwybodaeth am ba ddarparwyr sydd ar gael yn eich ardal ar gael ar wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd  Merthyr FIS

Os ydych yn byw mewn ardal ehangu Cam 2, gallwch gofrestru gyda'r rhaglen, a gwneud cais am eich lle gofal plant ar-lein. (dolen isod)

Bydd eich plentyn yn gymwys ar gyfer gofal plant Dechrau'n Deg o'r tymor ar ôl ei ben-blwydd yn 2 oed hyd at dymor ei 3ydd pen-blwydd.

Er mwyn sicrhau bod cais eich plentyn yn cael ei brosesu mewn modd amserol, a fyddech cystal â sicrhau bod y ffurflen gofrestru a’r ffurflen gais gofal plant wedi’u llenwi.

Unwaith y bydd eich cais yn dod i law anfonir e-bost awtomataidd, bydd tîm Canolog Dechrau’n Deg yn cysylltu â’r lleoliad gofal plant o’ch dewis i wneud yn siŵr eu bod yn gallu darparu ar gyfer eich plentyn (oni bai bod eich plentyn eisoes yn mynychu ac yn dod yn gymwys i FS yn ddiweddar) a chadarnhau lle eich plentyn. Fodd bynnag, os nad yw'r lleoliad yn gallu darparu ar gyfer eich plentyn, yna bydd tîm Dechrau'n Deg yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ddewis arall.

What is Flying Start | Merthyr Tydfil County Borough Council

Does dim cost i rieni am ofal plant gan ei fod yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru o raglan Dechrau’n Deg.

Os yw'n gymwys, bydd gan eich plentyn hawl i uchafswm o 12.5 awr yr wythnos o ofal plant wedi'i ariannu. Fel arfer cynigir sesiynau am 2.5 awr y dydd am 5 diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai lleoliadau yn gallu darparu ar gyfer gwahanol oriau yn seiliedig ar eich anghenion. Gall rhai lleoliadau gynnig 5 awr mewn un diwrnod, ond rydym yn awgrymu bod eich plentyn yn cael egwyl ginio ar ôl 2.5 awr.

Cynigir gofal plant yn ystod y tymor yn unig (39 wythnos y flwyddyn).

Ydy, mae nifer o Gylchoedd Meithrin ym Merthyr, i ddod o hyd i leoliad rhain, cysylltwch gyda Gwasanaeth Gwybodaeth y Teulu neu e-bostio'r tîm Dechrau’n Deg ar Flyingstart@merthyr.gov.uk

Efallai y bydd rhai lleoliadau yn gallu cynnig oriau ychwanegol o ofal plant, ond efallai y codir tâl arnoch am unrhyw beth sy'n fwy na'r 12.5 awr

Efallai y gallwch rannu eich gofal plant ar draws 2 leoliad, bydd hyn yn dibynnu a yw'r oriau/diwrnodau sydd eu hangen arnoch ar gael yn y ddau leoliad. Rhaid i'r ddau leoliad fod wedi'u lleoli ym Merthyr, bod wedi'u cymeradwyo gan Dechrau'n Deg ac i gael mynediad i'r lle a ariennir wedi'i rannu ni ddylai fod yn fwy na 12.5 awr i gyd.

Yn anffodus, na. Ar hyn o bryd ni allwn ariannu lleoedd gofal plant Dechrau'n Deg y tu allan i'r Fwrdeistref

Mae gofal plant Dechrau'n Deg o ansawdd uchel. Mae gan staff gymwysterau uchel, neu'n gweithio tuag at y cymhwyster uchaf sy'n ofynnol ar gyfer Dechrau'n Deg.

Mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n mynychu lleoliadau blynyddoedd cynnar o safon yn fwy annibynnol, yn canolbwyntio ar eu chwarae’n hirach ac, ar fynediad i’r ysgol, yn fwy cydweithredol ac wedi’u paratoi’n well ar gyfer yr heriau y maent yn eu hwynebu.

Mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, mae gan blant fynediad at y manteision ychwanegol a ddaw o fod yn ddwyieithog, megis gallu cynyddol i ganolbwyntio, swyddogaeth wybyddol uwch a gwell cysylltiadau cymdeithasol a diwylliannol. Yn aml, gall plant sy’n gallu newid rhwng ieithoedd ddatblygu dulliau mwy hyblyg o feddwl drwy broblemau.

 

Bydd plant yn elwa o dreulio amser mewn amgylchedd diogel, anogol gyda'u cyfoedion.

Gall y gofal plant a ariennir hefyd alluogi rhieni i weithio neu gael mynediad at gyfleoedd hyfforddi ac addysg na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall o bosibl.

I weld rhestr o ddarparwyr gofal plant Dechrau’n Deg, cyfrwng Cymraeg a Saesneg ym Merthyr, cysylltwch gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar:

Family Information Service - Merthyr Tydfil (merthyrfis.org)

Rhif Fȏn: 01685 727400

E-bost: FIS@merthyr.gov.uk

Os ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i feithrinfa neu warchodwr plant sy'n cynnig yr oriau gofal plant a ariennir, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn eich awdurdod lleol. Byddant yn rhoi rhestr i chi o'r holl ddarparwyr yn eich ardal.

Wrth i Dechrau’n Deg ehangu, mae’n bosibl y bydd lleoedd cyfyngedig ar gael yn eich ardal ac efallai y bydd yn rhaid i chi gael gofal plant mewn darpariaeth sydd y tu allan i’ch ardal leol.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael mynediad i Gynnig Gofal Plant Cymru unwaith y bydd eich plentyn yn troi’n 3 oed. Mae cymhwysedd yn berthnasol, am ragor o wybodaeth ewch i'r ddolen isod:

Welsh Government 30-hour Education/Childcare Offer | merthyr.gov.uk | Merthyr Tydfil County Borough Council

Cysylltwch â Ni