Ar-lein, Mae'n arbed amser

Beth yw Dechrau’n Deg

Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen flaenllaw gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar ac i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed.

Mae’r rhaglen yn darparu cymorth ar gyfer plant sydd rhwng 0 a 4 oed a’u teuluoedd fel y gallant ddysgu, datblygu a ffynnu. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar hybu iaith, sgiliau gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol, datblygiad corfforol a dynodi unrhyw anghenion yn gynnar.

Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu cymorth a chanllawiau iechyd, rhianta, lleferydd ac iaith a gofal plant rhan amser, o ansawdd ar gyfer plant sydd rhwng 2 a 3 oed.

Mae nifer o ymarferwyr proffesiynol yn rhan o dîm Dechrau’n Deg ac maent yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn cynorthwyo plant a theuluoedd. Maent yn cynnwys; ymwelwyr iechyd, bydwragedd, gweithwyr cymorth teuluol a rhianta, staff gofal plant, therapyddion iaith a lleferydd, athrawon y blynyddoedd cynnar, seicolegwyr addysg, gweithwyr iaith gynnar, nyrsys meithrin a thîm o staff cymorth ymroddedig. 

Beth am Dechrau’n Deg ym Merthyr Tudful?

Mae rhaglen Dechrau’n Deg ar gael mewn nifer o gymunedau, ledled Merthyr Tudful.

Os hoffech wybod os ydych yn byw oddi fewn i un o’r dalgylchoedd, cysylltwch â Thîm Dechrau’n Deg a fydd yn hapus iawn i’ch cynorthwyo.

Ym Merthyr Tudful mae Rhaglen Dechrau’n Deg yn darparu:

  • Gofal plant rhan amser, o ansawdd sydd wedi ei ariannu ar gyfer plant sydd rhwng 2 a 3 oed.
  • Gwasanaeth ychwanegol Ymwelydd Iechyd a Bydwraig;
  • Mynediad ar gyfer Rhaglenni Rhianta;
  • Cymorth ar gyfer Datblygiad Iaith Gynnar 
  • Gwasanaethau Cymorth Teulu

Gofal Plant

Mae Dechrau’n Deg yn cynnig gofal plant a ariannir ar gyfer plant sydd rhwng 2 a 3 oed mewn amgylcheddau safonol y tu fewn a thu allan. Bydd staff cymwys yn cynorthwyo plant i setlo, gwneud ffrindiau newydd a phrofi gweithgareddau sydd yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau y maent wedi eu dysgu yn y cartref. Bydd mynychu gofal plant yn eu paratoi ar gyfer yr ysgol a bydd fodd i rieni / gofalwyr fod yn rhan o ddysgu eu plant.

Gall rhieni / gofalwyr sydd yn ystyried darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg i’w plant, gysylltu â thîm Dechrau’n Deg ynghylch darpariaeth cyn oed ysgol yn y Gymraeg. Mae pob un o ddarpariaethau Dechrau’n Deg yn gynhwysol a gellir darparu ar gyfer plant sydd ag anghenion ychwanegol.

Ymwelydd Iechyd

Mae Tîm Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg yn cynnwys Ymwelwyr Iechyd hyfforddedig a chofrestredig, Nyrsys Meithrin Cymunedol a Therapyddion Iaith a Lleferydd. 

Mae Ymwelwyr Iechyd yn gweithio â theuluoedd sydd â phlant o dan 5 oed. Maent yn gweithio mewn dull holistig ac mewn partneriaeth â theuluoedd er mwyn rhoi’r dechrau gorau posib i blant. Bydd pob un teulu sydd â baban newydd yn cael cynnig cyswllt ag Ymwelydd Iechyd. Byddant yn cysylltu â chi yn ystod eich beichiogrwydd neu unwaith y bydd eich plentyn wedi cael ei eni.  

Bydd yr Ymwelydd Iechyd yn trafod patrwm ymweld a bydd gennych Ymwelydd Iechyd dynodedig hyd nes y bydd eich plentyn yn 5 oed. Gall Ymwelwyr Iechyd gynnig cymorth mewn nifer o feysydd fel bwydo, bwyta’n iach, datblygiad ac ymddygiad plentyn. Maent hefyd yno ar gyfer gweddill y teulu a gallant gynnig cymorth emosiynol i rieni. Gallant hefyd atgyfeirio a chyfeirio at wasanaethau eraill.

Mae Nyrsys cymunedol yn gweithio ar y cyd ag Ymwelwyr Iechyd a gallant ddarparu cymorth i blant, yn y cartref neu mewn grwpiau. Maent wedi eu hyfforddi’n arbennig mewn datblygiad plentyn a gallant gynorthwyo teuluoedd i gyflawni cerrig milltir fel defnyddio’r tŷ bach, bwyta bwyd solet a sgiliau cyfathrebu da. 

Bydd y fydwraig yn y tîm yn cynnig cymorth cynenedigol os oes gennych unrhyw bryderon. Bydd hefyd fodd iddi gynnig cymorth yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl i chi roi genedigaeth. Gall gynnig cyngor i chi ynghylch eich iechyd chi eich hun, dod i adnabod yr aelod newydd o’r teulu a chynorthwyo’r teulu i addasu i’r babi newydd.  

Rhianta

Mae Tîm Rhianta Merthyr Tudful yn cynnig cymorth i rieni/gofalwyr plant sydd rhwng 0 ac 18 oed.  

Gall bod yn rhiant/gofalwr ddod â llawer o hapusrwydd ond gall hefyd fod yn heriol. Nod y gwasanaeth yw gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd sydd yn byw ym Merthyr Tudful er mwyn:

  • Datblygu hunanhyder a sgiliau
  • Cryfhau perthnasau
  • Meithrin llesiant a gwydnwch

Trwy rhianta mewn modd cadarnhaol a datblygu perthnasau ystyrlon, gall rhieni feithrin plant iach, hapus a sefydlu cartref tawel a heddychlon lle y mae llai o wrthdaro.

Rydym yn cynnig rhaglenni â rhieni eraill neu gymorth un i un er mwyn cynorthwyo ac edrych ar feysydd fel:

  • Annog rhianta cadarnhaol
  • Cyfathrebu a sgiliau gwrando a sut y gallant annog ymddygiadau cadarnhaol
  • Amserlen amser gwely – sefydlu trefn a ffiniau
  • Ymdrin ag ymddygiadau gwael

Datblygiad Iaith Gynnar

Mae’r Tîm Iaith Gynnar yn cydweithio’n agos â rhieni a phartneriaid er mwyn sicrhau fod pob plentyn yn dechrau’r ysgol â’r gallu i siarad yn glir a chael eu deall.

Gall pob un o blant Dechrau’n Deg gael mynediad i’r Grŵp Iaith Gynnar er mwyn datblygu eu sgiliau ieithyddol trwy straeon, odlau, gweithgareddau crefft a llawer mwy.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni, yn cynnwys:  

  • Sêr Bach (newydd anedig - 3 mis)
  • Dewch i ni siarad â’ch babi (3-6 mis)
  • Mae’ch babi yn wych (6-24 mis)
  • Darganfyddwyr Bach (9-15 mis)
  • Rhythm ac Odl (15-20 mis)

Mae pob plentyn yn Dechrau’n Deg yn cael eu sgrinio gan ddefnyddio pecyn cymorth Lleferydd ac Iaith WellComm pan fyddant yn 20 mis, 2 oed ac yn 3 oed. Mae hyn yn caniatáu i rieni ac ymarferwyr proffesiynol ddeall a chynorthwyo anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu eu plant yn well.

Mae Therapydd Iaith a Lleferydd Dechrau’n Deg yn asesu plant lle y dynodwyd fod angen cymorth ar eu datblygiad iaith a lleferydd ac mae’n darparu rhaglen gynhwysfawr i wella’r datblygiad hwnnw. 

Gweithwyr Cymorth Teuluol

Bydd y Gweithwyr Cymorth Teuluol yn gwrando arnoch ac yn darparu cymorth. Gallai hyn olygu mynd gyda theuluoedd i apwyntiadau neu gyfarfodydd cychwynnol, cynorthwyo â chwblhau ffurflenni neu gynnig cymorth cyffredinol i deuluoedd â bywyd o ddydd i ddydd pan fydd angen hynny fwyaf.

Gall sawl peth fod yn rhwystr rhag cyrchu gwasanaethau, gan gynnwys diffyg hunanhyder, llythrennedd, pryderon ynghylch tai, perthnasau neu arian.

Gall cymorth teuluol rwystro argyfwng a chynorthwyo â phroblemau fel cael mynediad i gymorth tai, budd-daliadau, cymorth grant a phroblemau eraill allai rwystro’r teulu rhag byw bywyd iach a hapus.

Sut allaf ddod o hyd i Dechrau’n Deg?

Os ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, bydd eich Ymwelydd Iechyd yn rhoi gwybod i chi am y gwasanaethau sydd ar gael ar eich cyfer. Gallwch hefyd ffonio swyddfa Dechrau’n Deg ar 01685 725000.

Lle gallaf ddod o hyd i Wasanaethau Dechrau’n Deg?

Ym mhob un o ardaloedd Dechrau’n Deg mae / mi fydd Ysgol Feithrin Dechrau’n Deg. Gall yr adnodd hwn hefyd gynnwys gwasanaethau eraill fel dosbarthiadau Rhianta, Rhaglenni Iaith a Chwarae a gweithgareddau iechyd fel grwpiau bwydo o’r fron.

Bydd eich Ymwelydd Iechyd wedi ei leoli yn eich ardal Dechrau’n Deg ac ar gael i’ch cynorthwyo a’ch cynghori.

Bydd gan eich Ysgol Feithrin Dechrau’n Deg wybodaeth ynghylch pa wasanaethau Dechrau’n Deg sydd ar gael yn eich ardal.

Cysylltwch â ni

Er mwyn gwybod mwy am Raglen Dechrau’n Deg:

Ffôn: 01685 725000

E-bost: Flyingstart@merthyr.gov.uk

Facebook: Flying Start Merthyr Tydfil

Cyfeiriad:                                                  

Dechrau’n Deg
Canolfan Plant Integredig Cwm Golau
Heol Duffryn
Pentrebach
Merthyr Tudful
CF48 4BJ

Cysylltwch â Ni