Ar-lein, Mae'n arbed amser

Meddwl Am Addysg Gartref Dewisol

Addysg Gartref Dewisol yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio pan fydd rhieni/gofalwyr yn addysgu eu plentyn gartref yn hytrach na'u hanfon i'r ysgol. Mae addysgu eich plentyn gartref yn benderfyniad sylweddol. Bydd yn golygu ymrwymiad mawr o'ch amser, egni ac arian.

Mae gennych hawl i addysgu eich plentyn gartref ar yr amod eich bod yn bodloni gofynion Adran 7 o Ddeddf Addysg, 1996 sy'n gosod dyletswydd ar rieni pob plentyn o oedran ysgol gorfodol i gael addysg amser llawn effeithlon sy'n addas i'w hoedran, a'u gallu, ac i unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd ganddynt,  naill ai trwy bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol neu fel arall.

Os byddwch chi'n dewis addysgu eich plentyn gartref, rhaid i chi fod yn barod i gymryd cyfrifoldeb ariannol llawn, gan gynnwys talu costau unrhyw archwiliad cyhoeddus. Mae'n arbennig o bwysig eich bod yn ystyried natur yr addysg rydych chi'n bwriadu ei darparu i'ch plentyn cyn i chi ddechrau eu haddysgu gartref. Er enghraifft, dylech feddwl am y meysydd dysgu a phrofiad y byddwch chi'n eu darparu ac a fyddant yn caniatáu i'ch plentyn gyrraedd ei botensial, nawr ac yn y dyfodol, gan gynnwys a yw'ch plentyn yn dymuno sefyll arholiadau cyhoeddus fel TGAU.

Mae cyfleoedd i gymysgu a chysylltu â phlant ac oedolion eraill hefyd yn bwysig i ddatblygiad personol a chymdeithasol plentyn.

Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i blentyn gael ei addysgu o ddechrau'r tymor ar ôl ei bumed pen-blwydd tan y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol maen nhw'n 16 oed.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n meddwl am addysgu fy mhlentyn yn ddewisol?

Man cychwyn da fyddai cael trafodaeth gydag un o dîm EHE. Gellir cysylltu â nhw drwy 01685 725000 neu yn uniongyrchol drwy e-bost yn: merthyrhomeed Mae'n gyfle da i drafod y rhesymau pam rydych chi'n meddwl am addysgu gartref ac i weld a oes pethau y gellid eu datrys yn yr ysgol a allai fod y rheswm dros eich ystyried addysg gartref.

Gall cael trafodaeth gyda rhywun yn yr ysgol hefyd fod yn ddefnyddiol.

Nid oes gofyniad i chi wneud hyn ond pan fydd y penderfyniad mor bwysig mae'n gwneud synnwyr i weithio'r penderfyniad yn ofalus.

Os ydych chi'n penderfynu addysgu gartref, gallwch wneud hyn trwy roi gwybod i bennaeth ysgol eich plentyn yn ysgrifenedig. Yna bydd y pennaeth yn hysbysu'r tîm EHE.

Os nad yw'ch plentyn erioed wedi mynychu ysgol ym Merthyr Tudful (h.y. eich bod wedi symud i'r ardal neu eich plentyn wedi bod yn gyn-ysgol), nid oes angen caniatâd arnoch i addysgu gartref, ond efallai y byddwch yn dewis rhoi gwybod i'r ALl o'ch bwriad.

Beth yw cyfrifoldeb yr ALl?

Mae angen i ni fod yn fodlon bod pob plentyn yn derbyn addysg addas. Er mwyn gwneud hyn, bydd y swyddog sy'n gyfrifol am addysg gartref yn cysylltu â chi er mwyn trafod eich cynlluniau ac i gynnig cefnogaeth ac arweiniad.

Beth os byddaf yn newid fy meddwl?

Os ar unrhyw adeg yn ystod addysg eich plentyn yr hoffech iddynt fynychu'r ysgol, gallwch wneud cais ar-lein am le ysgol. Os hoffech gyngor neu gymorth, gallwch gysylltu â thîm EHE a fydd yn eich helpu yn y broses hon.

Cyswllt

Y Tîm Cynhwysiant (EHE) Canolfan Ddinesig Stryd y Castell Merthyr Tudful CF47 8AN

Ffôn: 01685 725000E-bost: merthyrhomeed@merthyr.gov.uk

Cysylltwch â Ni