Ar-lein, Mae'n arbed amser

Beth os oes gan fy mhlentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)?

Os oes gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mae gennych yr un hawl i'w addysgu gartref, ond mae'n rhaid i chi sicrhau bod addysg effeithlon yn cael ei ddarparu sy'n addas i'w oedran, a'u gallu.

Os yw'ch plentyn yn mynychu ysgol arbennig, bydd angen i chi gael caniatâd gan yr awdurdod lleol cyn ei dynnu oddi ar y gofrestr ysgol.

Os oes gan eich plentyn CAU, bydd adolygiad blynyddol yn parhau i gael ei gynnal am gyfnod y CAU, a fydd yn cynnwys adolygu a yw geiriad y cynllun yn dal i fod yn briodol ac a oes angen iddo aros yn ei le. Mae hawliau apelio ffurfiol yn dal i fod yn berthnasol.

Os ydych chi'n meddwl y gallai fod gan eich plentyn angen dysgu ychwanegol, gallwch ofyn i'r awdurdod lleol, a rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu a oes gan eich plentyn ADY. Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu bod gan eich plentyn ADY, rhaid iddo baratoi a chynnal CAU a sicrhau'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (CDY) a ddisgrifir yn y cynllun hwnnw.

Cysylltwch â Ni