Ar-lein, Mae'n arbed amser

Clybiau Brecwast

Menter Brecwast Am Ddim Mewn Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud ymrwymiad i ddarparu brecwast am ddim ar gyfer pob plentyn oed ysgol gynradd sydd wedi cofrestru mewn ysgol gynradd a gynhelir yng Nghymru, yn yr ysgol bob dydd. Bydd hyn yn galluogi’r rheini sydd, am ba bynnag reswm heb gael brecwast, i gael un yn yr ysgol. 

Wrth gyfyngu’r fenter i Ysgolion Cynradd y prif fwriad yw sicrhau nid yn unig yw ein plant ieuengaf yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, ond hefyd i sicrhau fod yr arferiad cynyddol o hepgor brecwast yn cael ei atal o’r oedran cynharaf posibl.

Ers tro, cafodd brecwast ei gydnabod fel pryd bwyd pwysicaf y dydd a dengys tystiolaeth fod brecwast iach yn gysylltiedig ȃ gwell iechyd, canolbwyntio ac ymddygiad mewn plant.

Dengys profiad hefyd fod cynlluniau brecwast llwyddiannus mewn ysgolion wedi arwain at newidiadau cadarnhaol o ran agwedd – gwell presenoldeb, gwell ymddygiad, llai o broblemau disgyblaeth a chanolbwyntio sy’n para’n hirach.

Mae Merthyr Tudful yn falch bod pob ysgol yn cynnig clwb brecwast am ddim.

Mae’r fenter brecwast am ddim yn un sydd sy’n anelu at roi cyfle i ddisgyblion ysgolion cynradd dderbyn brecwast iach am ddim yn yr ysgol bob dydd.

Cafodd ei brofi fod mwynhau brecwast da yn y bore yn gwella canolbwyntio ac ymddygiad y disgybl yn yr ysgol. Mae Clybiau Brecwast hefyd yn cynnig chwarae dan oruchwyliaeth ac amser i gymdeithasu yn y bore, gan baratoi’r plentyn ar gyfer y dydd o’i flaen a gwella prydlondeb a phresenoldeb.

Mae Clybiau Brecwast hefyd yn ddefnyddiol i rieni sydd angen dechrau gwaith yn gynnar.

Mae amseroedd Clybiau Brecwast yn amrywio o ysgol i ysgol, ond fel arfer maen nhw’n rhedeg o 8.10am i 8.50am.

Cysylltwch ȃ’ch ysgol i ddarganfod sut i gofrestru eich plentyn ar gyfer clwb brecwast.

Bydd pob plentyn sy’n mynychu yn derbyn brecwast.  

 Rydym yn cynnig y dewis canlynol o frecwast:

  • Rice Krispies
  • Weetabix
  • Cornflakes
  • Tost
  • Sudd ffrwythau
  • Darn o ffrwyth

 Gallwn hefyd ddarparu ar gyfer diet arbennig.

Os oes ymholiad penodol gennych ac os ydych am gysylltu ȃ’r Adran Arlwyo yn uniongyrchol, gwnewch hynny drwy e-bostio: myschoollunch@merthyr.gov.uk

Oes diddordeb gennych mewn gweithio i’r Adran Arlwyo? Rydym yn cynnig contractau oriau ysgol hyblyg yn ystod y tymor. Cliciwch yma am unrhyw swyddi gwag cyfredol

Cysylltwch â Ni