Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ysgol Arlwyo

Mae Gwasanaeth Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn credu bod angen maeth da ar blant a phobl ifanc er mwyn iddynt gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Mae bwydlenni ein hysgolion Cynradd ac Uwchradd yn cael eu cynllunio i ddiwallu canllawiau maeth Cymru ar gyfer cinio ysgol gan ein rheolwr arlwyo a’n Maethegydd. Ein nod yw sicrhau fod pob disgybl yn derbyn pryd o fwyd iach, cytbwys a maethlon.

Rydym hefyd yn arlwyo ar gyfer gofynion dietegol arbennig un ai ar sail feddygol, therapiwtig, ethnig neu ddewisol.

Ym Merthyr Tudful, caiff prydau ysgol eu gwneud o’r canlynol yn unig:

  • Ffrwythau a llysiau o ffynhonnell ranbarthol gan ddefnyddio cyflenwyr lleol ble y bo’n bosibl
  • Nwyddau sy’n rhydd o ychwanegion sy’n gysylltiedig ȃ phroblemau iechyd mewn plant ifanc
  • Braster sy’n rhydd o olewau hydrogenaidd
  • Bwydlenni sy’n cael eu dadansoddi’n faethol i ddarparu cydbwysedd maethlon
  • Cynhwysion, yn cael eu cynhyrchu bob dydd mewn cegin ysgol

Mae ein bwydlenni’n rhedeg mewn cylched pedair wythnos ac yn canolbwyntio’n gryf ar ffrwythau a llysiau a saladau ffres. Caiff ein hymrwymiad at fwyta’n iach ei adlewyrchu yn y nwyddau a ddefnyddiwn, gyda’r rhan fwyaf yn cynnwys gostyngiad mewn braster dirlawn, siwgr a halen. Mae ein holl nwyddau bwyd yn cael eu pobi mewn popty neu eu stemio, mae hyd yn oed y sglodion rydym yn eu gweini wedi eu pobi yn y popty ac yn ystod 2011 gwnaethon ni gael gwared ar beiriannau ffrio sglodion o bob cegin ysgol.

Hefyd mae bara cyflawn, iogwrt a dŵr ar gael bob dydd.

Ein prif nod yw darparu pryd iach a chytbwys i blant ysgol mewn:

  • Ysgolion meithrin, babanod, iau neu gynradd
  • Ysgolion uwchradd
  • Ysgolion arbennig

Os ydych chi’n meddwl bod hawl gan eich plentyn i gael prydau ysgol am ddim edrychwch ar dudalen prydau ysgol am ddim am ragor o wybodaeth.

Manteision cael cinio ysgol

  • Mae’r prydau’n gytbwys ac yn iach ac mae amrywiaeth bob dydd
  • Rydym yn arlwyo ar gyfer llysieuwyr, anghenion arbennig gan gynnwys diet meddygol ac anghenion crefyddol
  • Gall eich plentyn ymuno yn yr hwyl yn yr ysgol wrth hyrwyddo ac mewn cystadlaethau
  • Mae dyddiau thema yn hwyl ac yn faethlon ac yn cynnwys rhai o’r gorffennol fel “Picnic Tedi Bêrs”, “Diwrnod Dwyreiniol” a dyddiau traddodiadol fel Dydd Gŵyl Ddewi a Chinio Nadolig.
  • Mae’r bwydlenni’n cadw at Reoliadau Bwyta'n Iach Mewn Ysgolion 2013
  • Staff wedi eu hyfforddi’n drylwyr i weini prydau bob dydd

Prydau ysgolion cynradd

Rydym wedi rhoi llawer o amser, ymdrech ac adnoddau i greu a hyrwyddo bwydlenni iach a chynnig dewisiadau i blant. Rydym yn cynnig bwydlen pedair wythnos o brydau poeth, ynghyd  ȃ bwydlen baguette/wrap/taten bob. Mae ein prydau’n cynnwys pwdin a diod. Yn ychwanegol at bwdin y dydd, rydym ni hefyd yn cynnig dewis cyfyngedig o iogwrt ffrwythau neu ffrwythau ffres dyddiol.

Edrychwch ar ein bwydlen

Mae’r holl fwyd a diod rydym yn eu cynnig mewn ysgolion yn cydymffurfio ȃ Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Cenedlaethol)(Cymru).

Beth yw’r gost?

Mae prif bryd o fwyd dau gwrs penodol i blentyn yn costio £2.30.

Prydau ysgolion uwchradd

Rydym yn rhoi cryn dipyn o amser, ymdrech ac adnoddau i greu a hybu prydau iach a chynnig dewis i blant. Rydym yn cynnig bwydlen pedair wythnos o brydau bwyd poeth mewn opsiwn bwydlen benodol, ynghyd ȃ nifer o wahanol seigiau poeth ac oer sy’n amrywio’n ddyddiol ac yn cynnwys Pasta, Rhôl Wedi’i Llenwi, Brechdanau, Wraps ac mae’r holl fwyd a diod rydym yn eu cynnig mewn ysgolion yn cydymffurfio ȃ Rheoliadau Bwyta’n Iach Mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Cenedlaethol)(Cymru).

Edrychwch ar ein bwydlen

Beth yw’r gost?

Mae dêl pryd penodol i blentyn yn £2.70.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fwyd a diod felly edrychwch ar ein prisiau diweddaraf am fanylion pellach.

Anghenion Deiategol Arbennig

Er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn esmwyth ac i allu darparu cinio i'r rhai sydd ag unrhyw anghenion dietegol arbennig, mae hyn yn cynnwys dewisiadau llysieuol yn ogystal â diet moesegol / crefyddol, yn ogystal ag anghenion meddygol/alergen, mae'n ofynnol i chi gwblhau Ffurflen Ddietegol Arbennig a llwytho dogfennaeth berthnasol sy'n cefnogi unrhyw alergedd / diet rhagnodedig.

Gellir dod o hyd i'r ffurflen drwy ddefnyddio'r ddolen isod:

Ffurflen Gofynion Dietegol Arbennig | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Mae'n hollbwysig eich bod yn cwblhau’r ffurflen hon os oes gan eich plentyn anghenion dietegol arbennig er mwyn i ni allu darparu bwydlen briodol.

Noder  ni fydd gwyriad o’r prif fwydlen yn cael ei ddarparu oni bai bydd y ffurflen yn y ddolen uchod yn cael ei chwblhau a cyflwyno.

Talu heb arian am brydau bwyd ysgolion

Pa bynnag ysgol uwchradd mae eich plentyn yn ei mynychu, rydym yn cynnig opsiwn talu heb arian am brydau bwyd ysgol ym mhob safle.

System Heb Arian

Mae ein system yn eich galluogi i uwchlwytho arian ar-lein. Yna caiff yr arian ei ddefnyddio i dalu am fwyd a diod yn y ffreutur gan eich plentyn, drwy’r system rhif biometreg / pin.

Prydau bwyd ysgol am ddim ar systemau cerdyn heb arian

Mae’r system biometreg yn gweithio’r un ffordd i bob plentyn boed yn talu neu’n cael prydau ysgol am ddim. Bydd y swm a ddyrennir i’r pryd ysgol am ddim yn cael ei ychwanegu’n awtomatig at y system. Nid yw hyn yn gronnol.

Manteision systemau cerdyn heb arian

  • Mae cael gwared ar arian parod amser cinio yn gwella cyflymder y gwasanaeth i’ch plentyn.
  • Caiff manylion prydau eich plentyn eu cofnodi bob dydd, sy’n golygu y gallwch gadw llygad ar yr hyn mae eich plentyn yn ei fwyta.
  • Atal camddefnyddio arian cinio ysgol drwy ei wario mewn siopau y tu allan i diroedd yr ysgol.
  • I blant sydd ȃ hawl am bryd am ddim, caiff y gwerth ei ychwanegu yn awtomatig at y system, gan ei wneud yr un peth i bawb.

Pam ddylwn i ddewis cinio ysgol i fy mhlentyn?

Mae llawer o fanteision i’ch plentyn gael cinio ysgol. Mae ysgolion yn lleoedd delfrydol i annog bwyta’n fwy iach a dewisiadau da mewn bwyd i’r disgyblion. Dylai hyn helpu i atal gordewdra plentyndod a chymhlethdodau iechyd eraill.

  • Mae ein bwydlenni’n diwallu holl safonau maeth a osodir gan Reoliadau Bwyta’n Iach Mewn Ysgolion 2013
  • Caiff ein bwydlenni eu hysgrifennu gan Faethegydd Iechyd Cyhoeddus cymwysedig
  • Mae pryd ysgol yn llawer mwy cyfleus i chi gan ei fod yn arbed amser, does dim angen paratoi pecyn bwyd, golchi llestri neu drip siopa ar frys am eitemau anghofiedig ac mae cinio ysgol yn werth da am arian.
  • Mae cinio ysgol yn addysgu sgiliau cymdeithasol da i blant wrth iddynt fwyta gydag eraill a’u dysgu sut i ddefnyddio cyllell a fforc yn gywir. Mae hyn yn atgyfnerthu’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu yn y cartref.
  • Mae’r holl staff arlwyo wedi eu hyfforddi’n llawn mewn diogelwch bwyd, maeth a bwyta’n iach.

Rydym yn ymroddedig i wella safon y bwyd a weinir a datblygu gwasanaeth cynaliadwy i’r dyfodol. Ein nod yw darparu gwasanaeth o ansawdd a gwerth am arian a chyfrannu at iechyd a llesiant y gymuned yn ei chyfanrwydd.

Cysylltwch â Ni