Ar-lein, Mae'n arbed amser
Arolygiadau Ysgolion
Caiff bob ysgol ei harolygu gan Estyn ar gylchdro o chwe blynedd er y gall ysgolion nad ydynt yn perfformio cystal ag y dylent, fod yn destun arolygiadau dilynol a/neu fonitro ychwanegol gan yr awdurdod lleol.
Pwrpas arolwg yw canfod nodweddion da a diffygion fel y gall y darparwyr addysg a hyfforddiant wella ansawdd yr addysg y maent yn ei chynnig a chodi'r safonau a gyflawnir gan eu dysgwyr.
Mae adroddiadau arolygiadau Estyn wedi’u cynllunio i roi gwybodaeth i rieni a dysgwyr am berfformiad eu hysgol, coleg neu ddarparwr hyfforddiant.
Mae pob adroddiad arolwg ar gael i'w lawr lwytho o wefan Estyn gan ddefnyddio'r ddolen allanol a ddarperir.