Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymweliadau Cartref

Mae angen i’r Awdurdod Lleol gael ei bodloni bod eich plentyn yn derbyn darpariaeth addysgol briodol. Er mwyn gwneud hyn, mae’r swyddog gyda chyfrifoldeb am addysg gartref yn cysylltu gyda’r teulu i drafod eu cynlluniau a chynnig cefnogaeth ac arweiniad. Mae hyn fel arfer mewn ymweliad cartref. Cyn yr ymweliad bydd holiadur yn cael ei anfon atoch i’w gwblhau a fydd yn hwyluso’r drafodaeth ac yn gallu eich helpu i gynllunio sut ydych am sicrhau eich bod yn ymateb i’r gofynion addysgol sy’n addas i oedran, gallu a diddordebau’r plentyn. Bydd eich plentyn yn derbyn holiadur addas i’w gwblhau hefyd. Mae’r ymweliad yn un anffurfiol ac yn ffordd i chi ddod i adnabod eich gilydd, i drafod y math o addysg y byddwch yn ei ddarparu a sicrhau ei fod yn briodol ac hefyd edrych ar y math o gefnogaeth y gallwn ei gynnig. Yn dilyn yr ymweliad byddwch yn derbyn adroddiad ysgrifenedig llawn yn nodi’r hyn a drafodwyd.

Yn dilyn yr ymweliad cychwynnol, rydym yn cynnig cyswllt pob chwe mis, unai trwy ymweliad pellach neu e-bost. Rydym wastad ar gael i gynnig cyngor a chefnogaeth rhwng ymweliadau.

Cysylltwch â Ni