Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dysgu ac Addysgu
Mae rhieni plant a addysgir gartref yn gyfrifol am addysg eu plant, ond mae gan Gyngor Merthyr ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod yr addysg maent yn ei dderbyn yn briodol. Mae ein gwasanaeth Addysg Gartref ddewisol yn cynnig cyngor ac arweiniad i deuluoedd sydd wedi dewis addysgu eu plant gartref, yn cynnwys, cwricwlwm, sgiliau sylfaenol, llythrennedd a rhifedd, methodoleg ayyb. Rydym yn cynnig cyswllt wyneb yn wyneb rheolaidd neu dros e-bost er mwyn do di adnabod ein teuluoedd addysgu gartref ac estyn allan i gefnogi pan fo angen. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda merthyrhomeed@merthyr.gov.uk