Ar-lein, Mae'n arbed amser

All-gwricwlaidd

Gwasanaeth Cerddoriaeth 2021-2022

Gweler y neges isod gan Wasanaeth Cerdd CBSMT ar gyfer disgyblion sydd yn derbyn gwersi Cerddoriaeth Peripatetig gyda’r Gwasanaeth Cerdd yn yr ysgol ac sydd yn cyfranogi yng ngweithgareddau’r Gwasanaeth Cerdd ar ôl yr ysgol.

Gwersi offerynnol a lleisiol y Gwasanaeth Cerdd

Ein nod fel Gwasanaeth Cerdd yw sicrhau fod ein cymuned yn parhau i gynhyrchu cerddoriaeth drwy ddarparu cerdd mewn amryw o ffyrdd gan fel rydym i gyd yn gwybod, ar adegau fel hyn mae’n bwysig ein bod yn parhau i ganu ein hofferynnau a chanu a hynny er budd ein hiechyd a’n llesiant.  Mae gwersi offerynnau a llais Athrawon Peripatetig y Gwasanaeth Cerdd yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb, ledled y fwrdeistref sirol ac ar Teams, fel rhan o ddull cyfunol o ddysgu pan fydd angen gwneud hynny.

Cerddoriaeth ‘MENU’ Cerddoriaeth Merthyr - Music Education Needs Us / Mae Addysg Gerddorol ein hangen ni:

Mae MENU (Music Education Needs Us) yn cynnwys deunyddiau, adnoddau, canllawiau a dysgu ar-lein i’w defnyddio ar unrhyw adeg. Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ein gweithgareddau yn/ar ôl yr ysgol/coleg:

  • Cerddoriaeth Ieuenctid Merthyr Tudful

Trwy gydol y cyfnodau clo, bu staff peripatetig yn cwrdd ag aelodau Cerdd Ieuenctid Merthyr Tudful  ar Teams yn ystod amser arferol yr ymarfer er mwyn cael sesiwn gerddorol hwyliog a chwis. Y tymor hwn, rydym yn cadw mewn cysylltiad ag aelodau a’u rhieni/gofalwyr drwy gylchlythyron rheolaidd a’n bwriad yw ail ddechrau ymarferion wyneb yn wyneb yn Ionawr 2022.

Cerddorfa Ieuenctid Merthyr Tudful Medli Nadolig

 

Merthyr Tydfil Music Service Poster

Music Mark Logo

Sing Up Logo

Musical Futures Online Logo

Charanga Logo

Cysylltwch â Ni