Ar-lein, Mae'n arbed amser

Offerynnol

Gwasanaeth Cerddoriaeth 2021-2022

Gweler y neges isod gan Wasanaeth Cerdd CBSMT ar gyfer disgyblion sydd yn derbyn gwersi Cerddoriaeth Peripatetig gyda’r Gwasanaeth Cerdd yn yr ysgol ac sydd yn cyfranogi yng ngweithgareddau’r Gwasanaeth Cerdd ar ôl yr ysgol.

Gwersi offerynnol a lleisiol y Gwasanaeth Cerdd

Ein nod fel Gwasanaeth Cerdd yw sicrhau fod ein cymuned yn parhau i gynhyrchu cerddoriaeth drwy ddarparu cerdd mewn amryw o ffyrdd gan fel rydym i gyd yn gwybod, ar adegau fel hyn mae’n bwysig ein bod yn parhau i ganu ein hofferynnau a chanu a hynny er budd ein hiechyd a’n llesiant.  Mae gwersi offerynnau a llais Athrawon Peripatetig y Gwasanaeth Cerdd yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb, ledled y fwrdeistref sirol ac ar Teams, fel rhan o ddull cyfunol o ddysgu pan fydd angen gwneud hynny.

Cerddoriaeth ‘MENU’ Cerddoriaeth Merthyr - Music Education Needs Us / Mae Addysg Gerddorol ein hangen ni:

Mae MENU (Music Education Needs Us) yn cynnwys deunyddiau, adnoddau, canllawiau a dysgu ar-lein i’w defnyddio ar unrhyw adeg. Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ein gweithgareddau yn/ar ôl yr ysgol/coleg:

  • Darpariaeth gwersi 1-1 a grwpiau bychan

Mae gan ddisgyblion fynediad wyneb yn wyneb i wersi offerynnol a lleisiol mewn ysgolion mewn grwpiau 1-1 neu grwpiau bychan. Mae’r gwersi hyn ar gael ar-lein/o bellter ac ar Teams pan fydd angen.

  • Defnydd Charanga

Uwch-lwythiadau wythnosol o ddeunyddiau newydd gan staff, monitro datblygiad disgyblion, rhaglenni penodol ar gyfer offeryn neu’r llais, cynlluniau gwaith tymhorol ar gyfer pob grŵp blwyddyn, digon i ysbrydoli’n greadigol yn yr ysgol a gartref. Mae Charanga wedi datblygu pecyn adnoddau’n arbennig ar gyfer Covid-19 ac mae gan holl ddisgyblion CBSMT fynediad iddo trwy eu mewngofnodion personol sydd wedi’u creu gan ein staff.

  • Fideos techneg

Mae’r gweithgareddau offerynnol/lleisiol/gwybodaeth ar gael o bell ar gyfer myfyrwyr ar Charanga, Teams a/neu dolenni YouTube.

 

Music Mark Logo

Sing Up Logo

Musical Futures Online Logo

Charanga Logo

Cysylltwch â Ni