Ar-lein, Mae'n arbed amser

MTYM Cylchlythyr Mai

Bore da

Mae cerddorion ifanc Canolfan CIMT wedi bod yn gweithio’n galed ar eu repertoire, Deg Darn y BBC yn ystod yr hanner tymor hwn. Bydd ymarferion yn parhau hyd at 19 Gorffennaf  2022. Nodwch, fodd bynnag na fydd ymarferion yn ystod hanner tymor, Dydd Mawrth 31 Mai 2022.  

Nodwch y dyddiad!

Dydd Mawrth 21 Mehefin yw Diwrnod Creu Cerddoriaeth! Mae’r diwrnod yn dathlu cerddoriaeth fyd eang ac eleni, rydym yn agor drysau’n hystafell ymarfer i deulu a ffrindiau ddod i weld, gwrando ac ymuno â ni’n cael hwyl gyda’n gilydd wrth berfformio cerddoriaeth fyw.

Recriwtio!

Parhewch i annog ein cyfeillion cerddorol i ddod i Ganolfan CIMT. Mae am ddim ac yn agored i bawb ac mae’n addas ar gyfer cerddorion ifanc a phrofiadol.

Mae’n poster newydd  ar wefan CBSMT ynghyd â ffurflen gofrestru ar-lein:

All-gyrsiol / Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Ffurflen Gofrestru Cerddoriaeth Ieuenctid Merthyr Tudful / Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Rydym bron iawn wedi cyrraedd diwedd ein tymor cyntaf yn ôl yng Nghanolfan CIMT ac mae 1 ymarfer yn unig ar ôl ar Ddydd Mawrth 5 Ebrill 2022 rhwng 4.15pm a 5.15pm. Mae’n cartref newydd, Redhouse Cymru wedi bod yn lleoliad croesawgar, mae digon o le ac acwsteg gwych.

Mae’r cerddorion ifanc wedi gweithio’n galed yn ystod yr hanner tymor hwn ac wedi bod yn ymarfer repertoire 10 Darn y BBC: Dr Who, Winter, Mambo a Mars. Dyma ddolen i wefan Deg Darn y BBC. Gallwch wrando ar y darnau a lawr-lwytho traciau cefndirol os hoffech ymuno!

Delia Derbyshire – Doctor Who Theme (original theme by Ron Grainer) - BBC Teach

Antonio Vivaldi – ‘Winter’ from ‘The Four Seasons’, Allegro non molto (1st movement) - BBC Teach

Leonard Bernstein - ‘Mambo’ from Symphonic Dances from 'West Side Story' - BBC Teach

KS2: Gustav Holst - ‘Mars’ from ‘The Planets’ - BBC Teach

Rydym yn bwriadu trefnu perfformiad cyhoeddus ar ddiwedd tymor yr haf – bydd angen cadarnhau’r lleoliad a’r dyddiad a byddwn yn rhoi gwybod i chi y tymor nesaf. Parhewch i annog ein cyfeillion cerddorol i ddod i Ganolfan CIMT; mae am ddim ac yn agored i bawb ac mae’n addas ar gyfer cerddorion ifanc a phrofiadol!   

Yn ddiweddar, mynychodd un o’n haelodau profiadol, Michael (Clarinet), Inspire 2022, y Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol a chafodd amser gwych:

Yr wythnos ddiwethaf, mynychais gwrs gan y Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol a’i fwriad oedd ysbrydoli cerddorion i barhau â’u diddordeb mewn cerddoriaeth a gwella’u sgiliau. Cefais fy ysbrydoli’n fawr gan fwynhau chwarae darnau gwych yng nghwmni cerddorion arbennig o bob cwr o’r wlad a derbyn tiwtoriaeth gan glarinetydd proffesiynol. Roedd y cyfan am ddim! Un o’r darnau y  bûm yn ei chwrae oedd  Harry Potter, a chwaraeodd y tiwtor a oedd yn ein harwain y gerddoriaeth o’r ffimlmiau! Roedd yn swnio’n wych. Byddwn yn annog pawb i barhau i weithio’n gald er mwyn mwynhau profiadau tebyg.

Diolch am fy enwebu,

Michael.

Mae gwybodaeth ymgeisio 2023, y Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol wedi eu cynnwys isod ac rydym yn annog cerddorion ifanc sydd o’r safon ddisgwyliedig i ymgeisio.

Diolch yn fawr i chi am barhau i gefnogi’r Gwasanaeth Cerdd a Cherddoriaeth Ieuenctid Merthyr Tudful.

Cysylltwch â Ni