Ar-lein, Mae'n arbed amser
Pwysigrwydd Chwarae
I lwyddo i fyw mewn Cymdeithas sy’n gyfeillgar i chwarae ac sy’n cynnig ystod o gyfleoedd chwarae a hamdden, mae’n angenrheidiol i’r holl bartneriaid o fewn y gymuned i weithio gyda’i gilydd i gyflawni hyn.
Mae CBSMT yn cydnabod pwysigrwydd chwarae ym mywyd plentyn ac yn gwneud ymrwymiad cadarn i weithio’n ddyfal gyda sefydliadau partner; gyda phlant a’u teuluoedd; a chymunedau i sicrhau bod cyfleoedd chwarae yn hygyrch a’r hyn maent ei eisiau ac yn ei ddisgwyl.
Y partneriaethau yr ydym yn gweithio gyda nhw yw:
- Cynghorau Cymuned a Thref
- Sefydliadau'r Trydydd Sector, yn arbennig cymdeithasau chwarae rhanbarthol
- Grwpiau Cymunedol
- Blynyddoedd Cynnar
- Grwpiau Ieuenctid
- Plant gydag Anableddau
- Byrddau Iechyd
- Cymdeithasau Tai
Am fwy o wybodaeth am gyfleoedd chwarae o fewn Merthyr Tudful, cysylltwch gyda: enquiries.play@merthyr.gov.uk