Ar-lein, Mae'n arbed amser

Fforwm Cyllideb Ysgolion

Mae Adran 47A o Ddeddf Safonau a Fframwaith ysgolion 1998, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol fod pob Cyngor yn sefydlu Fforwm Ysgolion.

Yn unol â Rheoliadau Fforwm Ysgolion (Cymru) 2003, sefydlwyd Fforwm Ysgolion CBS Merthyr Tudful yn 2004, yn unol â’r rheoliadau yr adnabyddir yn lleol fel “Fforwm Cyllideb Ysgolion.”

Mae’n ofynnol i’r Cyngor ymgysylltu â’r Fforwm Cyllideb Ysgolion yn flynyddol ar y materion canlynol:

  • Cyllideb Ysgolion yr awdurdod lleol 
  • Newidiadau i gynlluniau dirprwyo gan gynnwys newidiadau i’r fformiwla cyllido ac effaith tebygol newidiadau o’r fath.
  • Contractau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sydd yn fwy na’r trothwy caffael a
  • Chytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer darparu cynnyrch a gwasanaethau gan yr awdurdod i ysgolion.

Gall yr awdurdod hefyd ymgynghori â’r Fforwm ar oblygiadau ariannol:

  • Trefniadau cinio ysgol am ddim
  • Trefniadau yswiriant
  • Trefniadau ar gyfer addysg plant sydd ag anghenion addysgol ychwanegol
  • Trefniadau ar gyfer defnydd unedau atgyfeirio disgyblion ac addysg plant mewn lleoliad heblaw am yr ysgol
  • Addysg y blynyddoedd cynnar
  • Dyraniad a defnydd grantiau penodol
  • Trafnidiaeth Ysgol

Mae’r Fforwm Cyllideb Ysgolion yn cynnwys cynrychiolwyr o’r ysgol a thu hwnt. 

Mae cynrychiolwyr yr ysgol yn cynnwys:  

  • Penaethiaid – Cynradd, Uwchradd, Gwirfoddol a Gynorthwyir, Cyfrwng Cymraeg ac Arbennig
  • Llywodraethwyr

Mae’r cynrychiolwyr eraill yn cynnwys:

  • Swyddogion o’r Awdurdod Lleol gan gynnwys y Prif Swyddog Addysg a’r Prif Swyddog Cyllid
  • Cynrychiolydd o’r Undeb Llafur
  • Arweinydd Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Addysg

Isod mae'r dolenni i Weithgor y Fforwm Ysgolion a'r Fforwm Ysgolion: Termau Cyfeiriadau, Aelodaeth a Chofnodion.

Fforwm Cyllideb Ysgolion 

Gweithgor Fforwm yr Ysgol

Cysylltwch â Ni