Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cludiant coleg ôl 16

Nid oes gofyniad statudol i ddarparu cludiant ar gyfer dysgwyr sydd yn hŷn na 16 oed. Fodd bynnag, mae Merthyr Tudful yn cynnig gwasanaeth trafnidiaeth ddisgresiynol ar gyfer dysgwyr 16 i 19 oed sydd yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd. Bydd trafnidiaeth yn cael ei darparu am ddim i Goleg Merthyr Tudful. Pan na fydd y cwrs ar gael yng Ngholeg Merthyr Tudful, bydd cludiant yn cael ei ddarparu i’r darparwr cwrs addas, agosaf i’r colegau canlynol: Coleg y Cymoedd (campws Ystrad Mynach ac Aberdâr yn unig) a Choleg Pen-y-bont (campws Pencoed yn unig)

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn trafnidiaeth am ddim MAE’N RHAID i ddysgwyr sydd yn hŷn na 16 oed :

  • Breswylio ym Merthyr Tudful; 
  • fod yn hŷn na 16 oed ac yn iau na 19 oed ar ddechrau’r flwyddyn academaidd;
  • mynychu cwrs astudiaeth cyntaf ar y campws coleg agosaf ar gyfer rhaglen addysg bellach, llawn amser yn y coleg o’u dewis
  • breswylio dair neu bedair milltir i ffwrdd o’u campws coleg addas, agosaf.

Bydd trafnidiaeth yn cael ei darparu gan drafnidiaeth ddysgwyr dynodedig fel bws neu fws mini neu drwy ddarparu tocynnau tymor ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd angen i fyfyrwyr gael mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus o’u gorsaf/safle bws addas, agosaf, yn ddibynnol ar yr ardal ac ar y math o docyn tymor a ddarperir.

Bydd ffurflenni cais ar gael gan wasanaethau myfyrwyr yn y colegau neu gallwch eu lawr-lwytho, isod.

Ffurflen gais y Coleg - Aberdare

Ffurflen gais y Coleg - Ystrad Mynach

Ffurflen gais y Coleg - Pencoed

Ffurflen gais y Coleg - Merthyr Tydfil

Bydd angen i’r ffurflen gael ei chwblhau a’i dychwelyd i’r coleg gan atodi ffotograff maint pasbort. Byddant yn cael eu gwirio a’u hanfon ymlaen at yr adran trafnidiaeth ysgolion. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu, yn unol â pholisi trafnidiaeth 16 oed a hŷn y Cyngor a bydd ymgeiswyr yn derbyn ymateb ysgrifenedig i’w cais.

Anogir myfyrwyr i gysylltu â’r adran trafnidiaeth ysgolion er mwyn gweld os ydynt yn gymwys am drafnidiaeth am ddim, cyn iddynt ymgofrestru.

Cysylltwch â Ni