Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ysgol Uwchradd Pen Y Dre

Pen Y Dre High School

Disgrifiad o'r Project:

Ar hyn o bryd mae Ysgol Uwchradd Pen y Dre yn cael ei hadnewyddu’n llwyr fesul cam i fodloni safonau Net Sero ar Waith newydd a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Dyma’r adnewyddiad cyntaf o ysgol gyfan i’r safonau hyn yng Nghymru ac mae natur arloesol y Project hwn eisoes wedi arwain at ddwy wobr - Gwobr Project Di-Garbon Net yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Cenedlaethol Cymru a’r DU.

Pan fydd y Project wedi'i orffen bydd gan yr ysgol gapasiti cynyddol o 1050 o ddisgyblion. Mae’r ysgol wedi’i threfnu’n Feysydd Dysgu yn seiliedig ar y Cwricwlwm newydd i Gymru, gan ganiatau ar gyfer mwy o gydweithio rhwng adrannau. Yn ogystal ag adnewyddu'r holl ystafelloedd addysgu, swyddfeydd a neuaddau, bydd y safle'n elwa o seilwaith TGCh newydd, cyfleusterau pwll wedi'u huwchraddio ac ardal gemau aml-ddefnydd newydd (AGA).

Cwblhawyd Cam 1 y Project ym mis Rhagfyr 2023 ac mae'r ysgol wedi bod yn defnyddio'r cyfleusterau newydd hyn ers Ionawr 2024. Disgwylir i Gam 2 y Project ddod i ben yn gynnar yn 2025 a disgwylir i’r Cam olaf ddod i ben yn 2026.

Cam Presennol: Contractwr ar y safle

Contractwr: Morgan Sindall

Cynllun ariannu: Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful arian cyfatebol gan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (Band B)

Cysylltwch â Ni