Ar-lein, Mae'n arbed amser

Llesiant y Gweithlu Addysg

Mae llesiant da ymysg staff yn hanfodol er mwyn sicrhau ysgol sydd yn feddyliol iach, cynnal ac ysbrydoli staff a hyrwyddo llesiant disgyblion a’u cyrhaeddiad. Gall problemau sydd yn effeithio llesiant yr athro arwain at oblygiadau sylweddol ar lesiant y dysgwr. Mae athrawon sydd yn iach yn emosiynol ac yn feddyliol yn fwy abl i allu datblygu perthnasau athro-dysgwr cryf.

Mae gan yr Ysgol, fel cyflogwr gyfrifoldeb i sicrhau iechyd, diogelwch a llesiant ei chyflogeion lle y mae’n rhesymol ymarferol i wneud hynny. Mae’n ofynnol hefyd i’r Ysgol roi mesurau lliniarol yn eu lle er mwyn lleihau, lle y mae’n rhesymol ymarferol i wneud hynny, faterion allai niweidio llesiant corfforol a meddyliol ei chyflogeion sydd yn cynnwys straen yn sgil gwaith. Mae’r cyfrifoldeb hwn yn berthnasol i’r materion hynny sydd yn gysylltiedig â’r gwaith ac sydd oddi fewn i reolaeth yr Ysgol.

Mae llesiant yn ymwneud â’n iechyd holistig sydd yn cynnwys y corfforol a’r emosiynol. Pan fydd gennym lefelau da o lesiant, rydym yn teimlo cydbwysedd mewn bywyd a gallwn ymdopi’n gyffredinol dda. Rydym yn teimlo’n ysbrydoledig, ymgysylltiol a gwydn ac yn meddu ar allu i ymdrin yn effeithiol â phroblemau dyddiol yn ogystal ag adfer ein cam wedi heriau bywyd.  

Wrth i staff yr Ysgol geisio rheoli amrywiaeth o dasgau a gofynion, mae’n bwysig fod pawb yn derbyn y cymorth emosiynol ac ymarferol cywir fel y gallant, yn eu tro, gefnogi eu disgyblion.

Mae angen i uwch arweinwyr ysgolion fod yn ymwybodol o feysydd penodol o straen all gael effaith ar lesiant staff a dylent sicrhau fod ymyriadau ar sail tystiolaeth yn cael eu hyrwyddo gan gefnogi staff mewn modd addas, amserol a phrydlon pan fydd angen.

Mae’r Adnodd Gwerthusiad a Gwelliant Cenedlaethol ar gyfer hunan-werthusiad yn galluogi uwch arweinwyr i adolygu llesiant athro a dynodi problemau straen cyffredin fel llwyth gwaith trwm neu faich gweithgareddau y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Bydd y blaenoriaethau a’r camau gweithredu yn rhan o’r broses gynllunio ar gyfer gwelliant ysgol ac yn hysbysu polisiau a chynlluniau sydd yn ymdrin â llwyth gwaith a llesiant y gweithlu addysg. Mae cenhadaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu ymroddiad i leihau llwyth gwaith diangen a gwaith papur drwy ddarparu gwell eglurder ar yr hyn sydd ei angen yn yr ystafell ddosbarth.

Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr a phlant, gall llesiant staff wella perfformiad a bodlonrwydd swydd all arwain at lai o newidiadau staffio. Gall hefyd leihau absenoldebau (byr a hirdymor,) cynyddu cynhyrchiant a hyrwyddo ymgysylltiad staff. 

Mae Siarter Llesiant y Gweithlu Addysg a Rhwydwaith Llesiant Adnoddau Dynol Addysg yr Awdurdod Lleol yn darparu canllawiau ac adnoddau i gynorthwyo unigolion ac ysgolion â’u llesiant emosiynol a meddyliol. 

Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru; Fframwaith ar ymwreiddio dull yr ysgol gyfan tuag at lesiant emosiynol a meddyliol yn cynnwys llesiant staff fel maes ffocws.

Siartr Llesiant Yn Y Gweithle

Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol

Cysylltwch â Ni