Ar-lein, Mae'n arbed amser
Llais Disgyblion
Rhoir cryn dipyn o bwys i Lais Disgyblion ym Merthyr Tudful. Mae gan bob ysgol Gyngor Ysgol ac oddi ar fis Hydref 2011, mae Cynadleddau Cyngor y Myfyrwyr ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gynnwys Ysgol Arbennig Greenfield, wedi dod yn ddigwyddiadau blynyddol. Mae’r cynadleddau hyn yn caniatáu i aelodau’r cyngor ysgol a grwpiau disgyblion eraill weithio ochr yn ochr â’u cymheiriaid mewn ysgolion eraill i ddysgu mwy am eu profiadau a rhannu arferion da. Mae hyn yn rhoi cyfle delfrydol i’r disgyblion chwarae rhan weithredol mewn datblygu polisïau yn y meysydd sy’n effeithio arnynt, a llywio’r broses gynllunio i’r dyfodol. Hefyd, mae’r math hwn o rymuso yn gwella’u hunan-barch a’u cadernid personol.