Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ysbrydoli i Gyflawni - Cefnogi eich taith i gyflogaeth
Ydych chi’n 16–24 oed ac yn ddi-waith ar hyn o bryd? Rydyn ni yma i'ch cefnogi gyda'ch camau nesaf i mewn i gyflogaeth.

Mae Ysbrydoli i Gyflawni’n brosiect wedi ei ariennu gan y Gronfa Twf Lleol ac fe’i gynlluniwyd i'ch helpu i feithrin y sgiliau, yr hyder a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnoch i symud yn nes at gyflogaeth. Pa un ai ydych yn gobeithio gwella eich cyfleoedd am swydd, goresgyn rhwystrau, neu ddod o hyd i'r sefydliad cywir i gefnogi eich nodau, rydyn ni yma i helpu.
Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig:
Cymorth Cyflogadwyedd wedi'i Bersonoli
- Byddwn yn datblygu eich cyflogadwyedd ac yn eich paratoi i weithio
- Byddwch yn derbyn arweiniad wedi'i deilwra, un-i-un yn seiliedig ar eich anghenion a'ch nodau
- Meithrin hyder, sgiliau a chymwysterau sy'n berthnasol i'r farchnad lafur heddiw
Help Ymarferol i Gael Gwared ar Rhwystrau
- Cefnogaeth gydag ysgrifennu CV a diweddariadau
- Help gyda chwilio am swydd a chwblhau ffurflenni cais
- Cynnig sesiynau 1:1 i fynd i'r afael ag iechyd a lles
- Byddwn yn eich cyfeirio at bartneriaid i gryfhau'r gefnogaeth
Cyrsiau Hyfforddi Ar-lein Am Ddim
Mae Ysbrydoli i Gyflawni’n darparu mynediad at ystod o gyrsiau ar-lein am ddim i'ch helpu chi i gryfhau eich sgiliau, gan gynnwys:
- Sgiliau Cyfathrebu
- Sgiliau Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Diogelu Data
- Lefel 2 Hylendid a Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo
- Lefel 1 Cyflwyniad i Ddiogelu Plant
- Cymorth Cyntaf yn y Gweithle
- Ymwybyddiaeth o Ymdrin â Llaw
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysbrydoli i Gyflawni (I2A):
📞 Ffôn: 01685 727457
📧 E-bost: I2A@merthyr.gov.uk
Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00am – 5:00pm. Byddwn yn ymateb i negeseuon ac e-byst a dderbynnir y tu allan i'r oriau hyn y diwrnod gwaith nesaf.

Cymorth Ychwanegol
Cymorth Ychwanegol
Cymwysterau Cydnabyddedig
Darganfod am gymwysterau sy’n berthnasol i’r gwaith.
Achrediad a Hyfforddiant sy’n berthnasol i’r Gwaith
Mynychu cyrsiau byr i wella eich Sgiliau a’ch Cyflogadwyedd.
Paratoi am Waith
Enillwch gymwysterau i hybu eich Sgiliau a’ch Cyfleoedd Gyrfaol.
Cyfleoedd Lleoliad Gwaith
Rydym yn cynnig Lleoliadau Gwaith mewn amrywiaeth o Amgylchiadau Gwaith.
Chwilio am Swydd, Cymorth Gyrfa
Defnyddiwch ein cyfleusterau i ddod o hyd i'r swydd iawn.