Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gweithiwr Cymorth Ieuenctid
Mae’r Tîm Cymorth Ieuenctid yn darparu rhaglen o gefnogaeth i bobl ifanc rhwng 10-18 oed am broblemau allweddol a allai fod yn rhan o’u profiad. Mae’r tîm yn helpu pobl ifanc i ystyried eu hymddygiad a’u risg, ac yn eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau rhesymegol a chymryd rheolaeth dros eu sefyllfa: Mae’r cymorth yn cynnwys:
- Datblygu gallu pobl ifanc i reoli perthnasoedd personol a chymdeithasol
- Datblygu agweddau, ymddygiad a dyheadau cadarnhaol
- Diogelu pobl ifanc o’r niwed a achosir gan amlygrwydd i ACE a phrofiadau eraill
- Hybu ymarfer corff a ffitrwydd
- Perthnasoedd cadarnhaol, codi ymwybyddiaeth am iechyd rhyw
- Negeseuon allweddol ynghylch iechyd a maeth
- Negeseuon allweddol ynghylch cam-drin sylweddau ac alcohol
- Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad wedi ei deilwra i anghenion pobl ifanc
- Gweithgareddau grŵp cymheiriaid sy’n galluogi pobl ifanc i’w helpu eu hunain a’i gilydd
Mae’r tîm hefyd yn cynnig “Rhaglen Gwytnwch” sydd ar gael trwy’r Ysgolion Uwchradd sy’n cynnwys:
Amrywiaeth o ymyraethau at angen y bobl ifanc o fewn amgylchedd grŵp. Bydd y sesiynau yn ffocysu ar:
- Rheoli Dicter
- Adeiladu Hyder a Goresgyn Pryder
- Cyfeillgarwch a Diogelwch ar y Rhyngrwyd
- 3 Sesiwn Perthynas Iach a gyflwynir mewn partneriaeth gyda Safer Merthyr Tydfil
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â youth.support@merthyr.gov.uk