Ar-lein, Mae'n arbed amser

Fforwm Ieuenctid a’r Maer Ieuenctid

Mae’r Gwasanaeth Cyfranogiad Pobl Ifanc yn sicrhau fod pobl ifanc yn derbyn cyfle i ddylanwadu a ffurfio’r gwasanaethau sy’n eu heffeithio yn unol â  Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Gyfan Merthyr Tudful (FfIBGMT)  

Mae Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Gyfan Merthyr Tudful (FfIBGMT) yn agored i holl bobl ifanc y Fwrdeistref sydd rhwng 11 a 25 oed. Gall bod yn aelod o FfIBGMT gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc drwy: 

  • Herio’r broses o wneud penderfyniadau o amgylch y gwasanaethau sy’n effeithio ar bobl ifanc.
  • Datblygu prosiectau o amgylch materion sy’n effeithio ar bobl ifanc.
  • Darparu gwell dealltwriaeth o’r system ddemocratig.
  • Gwella gwybodaeth a hunanhyder pobl ifanc.
  • Cynorthwyo pobl ifanc i adnabod ac anelu at eu nodau a’u dyheadau.
  • Ennyn hunanhyder mewn siarad cyhoeddus.

Mae FfIBGMT yn cwrdd ddwywaith y mis yng Nghanolfan Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful, 89-90 Y Stryd Fawr, Merthyr Tudful, 6.30pm i 8.00pm.

Cabinet Ieuenctid a’r Maer Ieuenctid

Gall aelodau o FfIBGMT sydd â diddordeb i fod yn fwy o ran o’r materion sy’n effeithio ar bobl ifanc ymuno â’r Cabinet Ieuenctid.

Mae’r Maer Ieuenctid a’r Dirprwy Faer Ieuenctid yn aelodau o’r Cabinet Ieuenctid. Pob blwyddyn, bydd etholiad ar gyfer Dirprwy Faer Ieuenctid a bydd y Dirprwy Faer Ieuenctid blaenorol yn cael ei sefydlu’n ffurfiol yn Faer Ieuenctid. Gall unrhyw berson ifanc sydd thwng 11 a 25 oed ac sy’n byw ym Merthyr Tudful enwebu eu hunain i fod yn ymgeisydd ar gyfer rôl y Dirprwy Faer Ieuenctid.  

Un o gyfrifoldebau’r Maer Ieuenctid, yn ogystal â’i rôl yn y cabinet ieuenctid yw dyfod yn Ddinesydd Ieuenctid cyntaf ar gyfer y Fwrdeistref Sirol ac i fod yn llais ar gyfer pobl ifanc ym Merthyr Tudful. Bydd hefyd yn mynychu digwyddiadau Dinesig ar y cyd â’r Maer fel y Gwasanaeth Carolau Nadolig a Sul y Cofio a bydd hefyd yn enwebu elusen i’w chefnogi.

Am ragor o wybodaeth ynghylch y rhaglen neu sut i gyfranogi, cysylltwch â  Chloe Rees yn Merthyr Tudful Mwy Diogel, Ffôn: 01685 353999 neu E-bostiwch cr@smt.org.uk

Cysylltwch â Ni