Ar-lein, Mae'n arbed amser

Parciau a mannau agored cyngor a gwybodaeth

Parc Cyfarthfa

Gorwedd Parc Cyfarthfa mewn 160 acer o dir parc gyda gerddi ffurfiol, llyn, ardaloedd chwarae i blant, pwll sblasio a model rheilffordd.

Mae Parc Cyfarthfa'n lle gwych i fynd, ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae hefyd yn lleoliad i nifer o ddigwyddiadau'r Fwrdeistref Sirol yn cynnwys 'Sioe y Sioeau' Sioe Sir Merthyr Tudful, sioe Fireworks Skyshow ac mae wedi bod yn lleoliad i gyngherddau mawr fel Status Quo a Donnie Osmond.

Gardd Synhwyrau

Agorwyd y prosiect Gardd Synhwyrau gan Ei Deilyngdod y Maer ar 14 Medi 2006. Mae'r ardd ym Mharc Cyfarthfa, yn union o dan y lawnt fowlio a'r cyrtiau tenis ble y safodd yr adardy yn y dyddiau a fu.  Prif nod yr ardd yw darparu lle diogel a phleserus i bobl gerdded ynddo, yn cynnwys rhai gyda nam ar y synhwyrau neu unrhyw nam arall.  Mae'r daith gerdded yn dechrau yng Nghastell Cyfarthfa ei hun ac yn arwain i lawr at ardal yr ardd gaeedig ac mae'n cynnig golygfeydd ar draws y cwm yn cynnwys yr hen waith haearn gyda'r draphont ac olion hen lwybr y gamlas.

Mae nodweddion yr ardd yn cynnwys:
  • Pwll wedi ei adnewyddu'n ddiweddar ble y gallwch glywed sain dŵr yn rhaeadru ac yn sblasio ar y creigiau.
  • 'Dehongliad' efydd sy'n cynnig gwybodaeth yn weledol a thrwy deimlad - ac yn ddarn bendigedig o gelfyddyd fodern ar yr un pryd
  • Gwely perlysiau wedi ei godi ble gallwch fwynhau arogl hyfryd y planhigion.  Ceir porth bwaog yno hefyd wedi ei orchuddio gan ddringhedydd neu wyddfid - yn ychwanegu at brydferthwch yr ardd ac at brofiad y synhwyrau.
  • Gallwch weld, cyffwrdd a theimlo amrywiaeth o goed o bedwar ban byd yn cynnwys rhisgl anghyffredin coed ceirios sy'n edrych fel petai'n pilio oddi wrth y boncyff llyfn.

Parc Taf Bargoed

Roedd tri phwll glo yn sefyll ar dir Parc Taf Bargoed -  Drifft Trelewis, Ager Dwfn a Thaf Merthyr - mewn ardal o oddeutu 50 Hectar (123 Acer) ac roedd yn destun cynllun adfer tir rhyw 13 mlynedd yn ôl.

Yng nghanol cwm bendigedig Taf Bargoed, Parc Taf Bargoed yw trysor cudd Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.  Mae gan y Parc adnoddau i bob gallu a gellir ei ddefnyddio ar gyfer pysgota, beicio, cerdded, canŵio ac ati, ac mae'n hawdd mynd ato o Lwybr Taf, Llwybr Trevithick a'r Llwybr Celtaidd sy'n rhedeg trwy'r safle.

Gweithgareddau ym Mharc Taf Bargoed:

  • Cerdded
  • Beicio
  • Canŵio
  • Pysgota
  • Gwylio adar
  • Parc sglefrio
  • Caeau pêl-droed a rygbi

Parc Tretomos

Dyma'r man agored cyntaf a ddaeth i feddiant Merthyr, wedi ei leoli i'r dwyrain o'r dref yn y man a oedd yn cael ei adnabod fel Tomen Tretomos. Mae yno ryw 17 acer o dir ac fe benderfynwyd ei ddefnyddio fel Parc Cyhoeddus ym 1900.

Mae wedi ei osod allan yn fedrus iawn fel Parc a Thir Pleser, mae'r nodweddion naturiol yn cael eu defnyddio i'r eithaf ac mae bellach yn fan hyfryd, yn denu miloedd o ymwelwyr yn ystod y flwyddyn.

Mae yno welyau blodau a borderi helaeth, llwyni, maes chwarae, a bandstand a chyfleusterau.  Hefyd mae yno Faes Chwarae i blant a phwll sblasio sy'n agored yn ystod misoedd yr haf yn ogystal â lawnt fowlio a thri chwrt tenis caled.

Mae'r parc o fewn cyrraedd i'r dref ac fe saif ar dir uchel yn edrych drosolygfeydd gwych o'r wlad o amgylch.

Parc Treharris

Daeth y tir i feddiant Cyngor Merthyr ym 1911 ac fe agorodd i'r cyhoedd fel Parc Pleser ym 1912.  Tir fferm oedd yr ardal yn o'r enw Penygraig ac roedd yn sylfaen i barc naturiol gyda choetir a glyn.

Mae gan y Parc rai rhywogaethau gwych o goed coniffer a masarn a gwelyau o blanhigion a llwyni sydd i'w gweld trwy gydol y parc yn ystod misoedd yr haf.

Mae Parc Treharris hefyd yn gartref i lawnt fowlio, maes chwarae a phwll sblasio i blant, bandstand gyda seddi, cyfleusterau cyhoeddus, pafiliwn a chae pêl-droed.

Parc Troedyrhiw

Daeth y tir sydd bellach yn Barc Troedyrhiw i feddiant Cyngor Merthyr gan Iarll Plymouth ym 1912.

Iechyd y boblogaeth oedd y prif sbardun y tu ôl i'r "Mudiad Parciau" cenedlaethol, ac er mai glaswellt oedd yno'n bennaf plannwyd coed, llwyni, gwelyau blodau a borderi yn ardal Parc Troedyrhiw.

Ystyriwyd bod chwaraeon awyr agored yn hanfodol i iechyd da felly adeiladwyd lawnt fowlio ynghyd a dau gwrt tenis caled a phafiliwn. Mae ardal chwarae i blant a chofeb rhyfel hefyd ym Mharc Troedyrhiw.

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?