Ar-lein, Mae'n arbed amser

Parciau a Mannau Agored Cyfleusterau Awyr Agored

Mae parciau'r Awdurdod wedi eu rhannu'n Barciau Bwrdeistrefol, Parciau Cymunedol a Pharciau Gwledig.

Parciau Bwrdeistrefol 

Ceir pum parc Bwrdeistrefol, sef:

  • Parc Cyfarthfa
  • Parc Tretomas
  • Parc Troedyrhiw
  • Parc Treharris
  • Parc Trelewis

Mae gan barc Bwrdeistrefol faes neu feysydd chwarae, mae ganddo lawnt fowlio a chyrtiau tenis ac efallai bod ganddo ardal i gicio pel neu gaeau chwarae, gwelyau blodau ffurfiol a nodwedd tirwedd caled fel bandstand neu bistyll.  Bydd yn addas ar gyfer amrywiaeth eang o ddiddordebau.  Bydd yn cau bob nos ar amser penodol.

Parciau Cymunedol

Ceir chwe Pharc Cymunedol, sef:

  • Parc Santes Tudful, Tretomas
  • Parc y Bandstand, Dowlais
  • Parc Stablau, Dowlais
  • Gerddi Engine House, Dowlais
  • Gerddi Pensiynwyr Troedyrhiw
  • Parc Aberfan

Mae Parc Cymunedol yn llai ffurfiol na Pharc Bwrdeistrefol ac mae'n rhywle y gall pobl fynd iddo i eistedd ac ymlacio neu rhywle i blant chwarae ar y glaswellt gyda meinciau a biniau sbwriel ac mae'n cael ei gynnal yn ddyddiol.  Fodd bynnag, ni fydd ar gau i'r cyhoedd yn ystod y nos.

Parc Gwledig

Ceir un Parc Gwledig: Parc Taf Bargoed sydd yn Nhrelewis, ac sy'n dir wedi ei adfer sy'n eiddo i'r Awdurdod a dan weithred gyflwyno a chymodi gyda Sefydliad Groundwork mae wedi manteisio ar gyllid gan Gomisiwn y Mileniwm.

Nid yw'r Parc Gwledig hwn mor ffurfiol a Pharc Bwrdeistrefol, ac mae iddo deimlad o fan agored i'r cyhoedd sy'n dal i gynnig adnoddau fel ardaloedd chwarae ar gyfer cerdded, pel-droed, rygbi, pysgota, canŵio, beicio a marchogaeth.  Mae'n amgylchedd naturiol, yn defnyddio rhywogaethau brodorol yn hytrach na phlanhigion addurniadol traddodiadol Parciau Bwrdeistrefol.

Cysylltwch â Ni