Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rhybuddion Llifogydd

Cyngor

Os yw llifogydd wedi effeithio ar eich eiddo neu fusnes neu os ydych chi'n credu y gallai llifogydd effeithio arno, fe'ch cynghorir i wneud rhai paratoadau angenrheidiol eich hun. Efallai na fydd gweithwyr y Cyngor bob amser ar gael i helpu.

Rydym yn eich cynghori i storio bagiau tywod ar eich eiddo gan na fyddwn o bosib yn gallu dod â bagiau tywod atoch mewn pryd.

Pan fo’r swyddfa ar gau, ffoniwch 01685 384489 os bydd argyfwng llifogydd.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am baratoi ar gyfer llifogydd ar National Flood Forum.

Rhybuddion

I gael rhybuddion, rhagolygon a chynghorion am lifogydd yn rheolaidd, ewch i Met Office Weather Warnings neu wefan Rhybuddion Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yswiriant

I gael gwybodaeth am ble i ddod o hyd i yswiriant fforddiadwy os yw'ch cartref wedi dioddef llifogydd neu mewn perygl o ddioddef llifogydd, ewch i wefan Flood Re.

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?