Ar-lein, Mae'n arbed amser
Rhybuddion Llifogydd
Cyngor
Os yw llifogydd wedi effeithio ar eich eiddo neu fusnes neu os ydych chi'n credu y gallai llifogydd effeithio arno, fe'ch cynghorir i wneud rhai paratoadau angenrheidiol eich hun. Efallai na fydd gweithwyr y Cyngor bob amser ar gael i helpu.
Rydym yn eich cynghori i storio bagiau tywod ar eich eiddo gan na fyddwn o bosib yn gallu dod â bagiau tywod atoch mewn pryd.
Pan fo’r swyddfa ar gau, ffoniwch 01685 384489 os bydd argyfwng llifogydd.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am baratoi ar gyfer llifogydd ar National Flood Forum.
Rhybuddion
I gael rhybuddion, rhagolygon a chynghorion am lifogydd yn rheolaidd, ewch i Met Office Weather Warnings neu wefan Rhybuddion Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yswiriant
I gael gwybodaeth am ble i ddod o hyd i yswiriant fforddiadwy os yw'ch cartref wedi dioddef llifogydd neu mewn perygl o ddioddef llifogydd, ewch i wefan Flood Re.
Cyngor
Mae'r Cyngor yn estyn allan at ein preswylwyr ym Merthyr Tudful sy'n berchen ar unrhyw dir sy'n cynnwys
cwlfert, gwle, nant, ffos neu gwrs dŵr sy'n rhedeg drwyddo - ac yn gofyn i berchnogion wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol yn ystod yr wythnosau nesaf, er mwyn helpu i leihau'r risg o lifogydd yn ystod y misoedd tywyllach ac oerach.
Cymerwch olwg ar ein 5 prif awgrym i'ch helpu i gynnal yr asedau preifat hyn yn ddiogel;
- Clirio unrhyw rwystrau drwy gael gwared ar ddail, malurion a silt a allai rwystro llifo dŵr
- Torri'n ôl unrhyw blanhigion sydd wedi gordyfu a allai gyfyngu ar lif dŵr
- Osgoi rhwystrau trwy beidio byth â dympio gwastraff cartref neu ardd i'r cyrsiau dŵr hyn
- Arolygu cwlferi a cheuntiau yn rheolaidd i sicrhau nad ydynt wedi'u blocio, eu cwympo na'u erydu
- Rydym yn eich cynghori i storio bagiau tywod ar eich eiddo rhag ofn y bydd argyfwng
Gallwch roi gwybod am unrhyw bryderon yma: https://www.merthyr.gov.uk/do-it-online/report/