Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rheoli Perygl Llifogydd

Mae llifogydd yn parhau i fod yn fygythiad allweddol i gymunedau ar draws Cymru ac mae rheoli'r perygl trwy gynllunio'n ofalus yn bwysig i leihau'r perygl i gymunedau. Mae rheoli perygl llifogydd yn caniatáu i Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) ddatblygu dealltwriaeth well o'r perygl o bob ffynhonnell o lifogydd a chytuno ar flaenoriaethau i reoli'r perygl hwnnw.

Datblygwyd cynllun rheoli perygl llifogydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gan gadw hyn mewn cof ac mae'n nodi sut bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, dros y 6 blynedd nesaf, yn rheoli perygl llifogydd yn y cymunedau sydd mewn mwyaf o berygl yn ogystal â gwneud y gorau o'r manteision amgylcheddol. Wrth wneud hynny, mae'r cynllun rheoli perygl llifogydd yn rhoi'r amcanion a'r camau gweithredu a osodwyd yn ein Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol (LFRMS) ar waith.