Ar-lein, Mae'n arbed amser

Caniatâd cwrs Dŵr Cyffredin

Ar 6 Ebrill 2012, rhoddwyd cam pellach ar Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (FWMA) ar waith. Gan weithio fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gyfrifoldebau gan Cyfoeth Naturiol Cymru o ran caniatâd cwrs dŵr cyffredin.

Diben rheoleiddio cwrs dŵr cyffredin yw rheoli gweithgareddau penodol a allai gael effaith andwyol ar berygl o lifogydd a'r amgylchedd. Mae'n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sicrhau hyn, ynghyd â rhoi ystyriaeth ddyladwy i weithredoedd a rheoliadau eraill. Er mwyn sicrhau hyn, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful y pŵer i gymhwyso amodau rhesymol i ganiatâd, er enghraifft, cymhwyso amodau i'r ffordd mae'r gwaith yn cael ei wneud, cyfyngu ar amser a chyfnodau gwaith oherwydd gweithgaredd pysgod / adar / mamaliaid neu wrthod caniatâd. (er y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ceisio cydweithio ag ymgeiswyr i sicrhau y gellir caniatáu cynlluniau).

Argymhellir bod Perchnogion tir a Datblygwyr yn cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful cyn gynted â phosibl ynglŷn ag unrhyw gynnig, gan ganiatáu digon o amser cyn i'r gwaith ddechrau. Trwy wneud hynny, gellir canfod problemau posibl a'u datrys cyn i'r cynlluniau fynd ymhellach a thrwy hynny, lleihau'r costau i'r holl bartïon. Mae'r manteision eraill yn cynnwys canfod gwelliannau amgylcheddol nad ydynt o reidrwydd angen gwariant sylweddol gan y datblygwyr a lleihau'r amser mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ei angen i wneud penderfyniad.

Mae unrhyw gwrs dŵr cyffredin yn cael ei ddiffinio fel cwrs dŵr nad yw'n ffurfio rhan o brif afon. Mae hyn yn cynnwys nentydd, draeniau, ceuffosydd, morgloddiau, ffosydd a theithiau lle mae dŵr yn llifo. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i roi caniatâd ar Brif Afonydd.

Beth yw cwrs dŵr cyffredin a beth sydd angen caniatâd?

Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Thwr 2010 (FWMA) yn ehangach na’r rheoliadau blaenorol. Mae angen caniatâd ar gyfer:-

  • Unrhyw altrad sy’n debygol o effeithio ar lif cwrs dŵr cyffredin;
  • Unrhyw geuffos; a
  • Gwaith dros dro yn ogystal â gwaith parhaol.

Os ydych wedi derbyn caniatâd gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn mis Ebrill 2012, mae hwn yn parhau i fod yn ddilys. Yn yr un modd, os yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dechrau ar gamau gorfodi, byddant yn parhau i fod yn gyfrifol am yr achosion hyn.

Beth sydd wedi’i ysgrifennu yn y ddeddfwriaeth?

Mae Adran 23 o Ddeddf Draenio Tir 1991 fel y’i diwygiwyd gan FWMA 2010 yn datgan:

1. Ni ddylai unrhyw un—

(a)  adeiladu unrhyw argae cronni, cored nag unrhyw rwystr tebyg arall i lif unrhyw gwrs dŵr cyffredin na chodi neu newid altro unrhyw rwystr o’r fath: neu

(b) adeiladu ceuffos mewn cwrs dŵr cyffredin, neu

(c) altro ceuffos mewn modd sy’n debygol o effeithio llif cwrs dŵr cyffredin heb ganiatâd ysgrifenedig gan y bwrdd draenio dan sylw.

(1A) Gellir rhoi caniatâd dan yr adran hon yn amodol ar amodau rhesymol.

(1B) Mae’n rhaid i fwrdd draenio mewnol neu’r awdurdod llifogydd lleol arweiniol ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru cyn cynnal unrhyw waith yn isadran (1)(a), (b) neu (c) os mai’r bwrdd neu’r awdurdod yw’r “bwrdd draenio dan sylw” at ddibenion yr adran hon.

(1C) Mae’n rhaid i’r bwrdd draenio dan sylw ystyried unrhyw ganllaw a roddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru am arfer swyddogaethau’r bwrdd dan yr adran hon.]

 

Sut mae caniatâd yn cael ei weinyddu?

I gael caniatâd, mae’n rhaid talu ffi o £50 fesul strwythur.  Wedi I gais cyflawn gael ei dderbyn, bydd gan yr adran Ceisiadau gyfnod penderfynu statudol o 2 fis a bydd y cais yn cael ei dderbyn, ei wrthod neu ei roi ag amodau. Hefyd, rhoddir llinell amser ar gyfer gwneud y gwaith.

 

Beth fydd yn cael ei ystyried yn y cais?

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ystyried yr effaith y gallai’r gwaith ei gael ar berygl llifogydd a’r amgylchedd. Byddwn yn gwirio os yw asesiadau angenrheidiol wedi’u cynnal, fel Asesiad Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr neu Asesiad Effaith Amgylcheddol (gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful roi cyngor cyffredinol ar yr asesiadau y dylid eu cynnal ond yn y pen draw, cyfrifoldeb y Datblygwyr yw eu cynnal).

Bydd cydymffurfiaeth â’r deddfau mae’r awdurdod yn gyfrifol amdanynt yn cael ei ystyried, gan gynnwys:-

  • Deddf yr Amgylchedd (1995);
  • Rheoliadau Cynefinoedd (2010);
  • Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (2000/60/EC);
  • Rheoliadau Llyswennod (2009);
  • Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 (1975)
  • Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (2000).

Os yw’r gwaith yn cael ei wneud ar safle dynodedig, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful hefyd yn ystyried:-

  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI);
  • Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC); neu
  • Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA).

 

Am beth mae’r Ymgeisydd yn gyfrifol?

Mae gofyn i’r ymgeisydd drefnu’r gwaith fel nad oes cynnydd yn y perygl o lifogydd i drydydd parti a sicrhau fod ganddynt ganiatâd unrhyw berchnogion tir a phreswylwyr a effeithir gan y gwaith.

Nid yw Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn tynnu unrhyw anghenraid oddi ar yr ymgeisydd am drwyddedau, caniatâd neu gymeradwyaeth eraill. Er enghraifft, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod y dylunio a’r adeiladu yn unol â Rheoliadau Rheoli a Dylunio Adeiladau. Hefyd, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru os oes rhywogaeth warchodedig ar y safle.

Os yw’r Cyngor angen gwybodaeth bellach i wneud penderfyniad, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw cyflwyno hyn i’r cyngor mewn modd amserol, gan gydnabod y bydd penderfyniad yn cael ei wneud mewn dau fis ar ôl derbyn y cais llawn. Os nad oes gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ddigon o wybodaeth, ni fydd caniatâd yn cael ei roi. Os oes posibilrwydd y bydd y gwaith a gynlluniwyd hefyd yn effeithio prif afon neu’r môr, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am ganiatâd yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

 

Beth os yw’r gwaith yn cael ei wneud mewn Safle Dynodedig?

Os yw’r gwaith wedi’i leoli mewn SSS1 (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) SAC (Ardal Cadwraeth Arbennig) neu SPA (Ardal Gwarchodaeth Arbennig), bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru.

Fodd bynnag, os yw’r gwaith yn cael ei wneud ar safle â rhywogaethau gwarchodedig, mae’n rhaid i’r ymgeisydd gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol, rhag ofn y bydd angen trwydded ar gyfer y gwaith o dan ddeddfwriaeth rhywogaethau a warchodir.

 

Pa bwerau Gorfodi sydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful?

Nodau rheoli perygl llifogydd yw sicrhau llif arferol dŵr mewn cwrs dŵr a dros y gorlifdir; rheoli lefelau dŵr a diogelu asedau sy’n bodoli eisoes. Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, defnyddir camau gorfodi i unioni unrhyw weithredu heb awdurdod ac anghyfreithlon, gan ddefnyddio dull yn seiliedig ar berygl.

Wrth ystyried camau gorfodi, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful bob amser yn ceisio datrys trwy drafod i ddechrau. Mae ceisiadau’n cael eu hadolygu ar sail unigol ac mae amrywiaeth o gamau gorfodi y gallai Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful eu cymryd, gan ddibynnu ar y difrifoldeb. Mae dulliau nodweddiadol o orfodi’n cynnwys;

  • Ymweliadau safle a chyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda’r cyflawnwr;
  • Anfon llythyrau ymgynghorol;
  • Anfon llythyrau rhybuddio;
  • Defnyddio rhybuddion i orfodi, gwahardd neu gynnal gwaith;
  • Erlyn ac adennill costau erlyn; a
  • Chamau unioni uniongyrchol yn ogystal ag ail-godi costau’r camau unioni hynny
  • Bydd y weithdrefn gorfodi’n cael ei chynnal dan Ddeddf Draenio Tir (1991).

 

Cysylltwch â ni

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog y cyhoedd i gymryd rhan mewn trafodaethau â ni cyn gwneud cais am ganiatâd. Trwy gael trafodaeth cyn y cais, gellir ystyried opsiynau nad oes angen caniatâd ac nad ydynt yn cael effaith andwyol ar y cwrs dwr.

Os oes angen caniatâd o hyn, gall trafodaethau cyn y cais sicrhau bod yr ymgeisiwyd yn deall yn llawn y gofynion ac unrhyw ffyrdd eraill posibl o ymgymryd â’r gwaith na fyddai angen caniatâd.

Payments can be made over the phone by Credit/Debit card on 07568 100588. 

Taliad Ar-lein

Cysylltwch â Ni