Ar-lein, Mae'n arbed amser
Hawliau Tramwy
Dywedwch wrthym am unrhyw broblem ar hawl dramwy gyhoeddus gan gynnwys:
- Arwyddion
- Anifeiliaid
- Rhwystrau
- Llystyfiant wedi gordyfu
- Camddefnydd llwybr
- Aredig neu gnydio
- Arwyneb y llwybr
- Draenio
- Gatiau, tramwyfeydd a rheiliau llaw
Mae hawliau tramwy cyhoeddus ar agor i bawb. Maen nhw’n gallu bod yn ffyrdd, yn llwybrau neu’n draciau ac yn gallu teithio trwy drefi, cefn gwlad neu eiddo preifat. Mae hawl gennych i gerdded arnyn nhw. Mae rhai hawliau tramwy hefyd ar agor i ferlotwyr, beicwyr neu fodurwyr. Mae tri math o hawliau tramwy:
- Llwybrau troed cyhoeddus: i gerddwyr yn unig
- Llwybrau ceffylau cyhoeddus: i gerddwyr, merlotwyr a beicwyr
- Cilffyrdd cyhoeddus: i gerddwyr, merlotwyr, beicwyr, cerbydau modur, yn amodol ar natur y ffordd.
Os hoffech ddarganfod a yw llwybr yn hawl dramwy gyhoeddus, gallwch gysylltu â ni neu gyfeirio at y 'Map Diffiniol', sef y cofnod cyfreithiol swyddogol o hawliau tramwy cyhoeddus sydd ar gael i’w harchwilio drwy apwyntiad yn unig drwy gysylltu â rightsofway@merthyr.gov.uk, 01685 727309/726225/727052, mae’r map wedi ei leoli yn Uned 5, Parc Busnes Triongl, Pentrebach, Merthyr Tudful.