Ar-lein, Mae'n arbed amser
Croesfannau Cerddwyr
Mae’r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw croesfannau cerddwyr ym Merthyr Tudful. Mae’r holl ffyrdd yn cael eu harolygu’n gyfnodol ac mae ein Harolygwr Priffyrdd yn adrodd ar unrhyw broblemau a nodwyd i’w hatgyweirio.
Mae’n ddyletswydd arnom i ddarparu a chynnal a chadw croesfannau cerddwyr felly os ydych yn sylwi ar broblem ar groesfan ac yn dymuno adrodd ar y broblem, gallwch ddefnyddio’r Ffurflen adrodd gyffredinol ar-lein neu gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r wybodaeth ar waelod y dudalen hon.
Gwneud Cais am Groesfan Newydd i Gerddwyr
Mae’r Cyngor yn cael llawer o geisiadau pob blwyddyn am groesfannau newydd. Er mwyn helpu i ddefnyddio adnoddau prin i gael y canlyniadau gorau, ystyrir pob cais yn unol â chanllawiau Cenedlaethol gan yr Adran Drafnidiaeth. Y prif ffactorau a fesurir yw nifer y bobl sy’n croesi a faint o draffig. Mae ffactorau eraill yn cynnwys nifer yr anafiadau ar y ffordd ger y safle a nodweddion lleol megis ysbytai, ysgolion a siopau.
Mae pum math gwahanol o groesfan. Isod mae rhagor o wybodaeth am y croesfannau gwahanol a allai’ch helpu os oes angen i chi gysylltu â ni am groesfan.
Mathau o Groesfan
Croesfannau Pâl (Croesfan Ddeallus Gyfeillgar i Gerddwyr)
Mae croesfannau pâl yn edrych yn debyg iawn i groesfannau pelican. Mae croesfannau Pâl yn fersiwn ddiweddarach o groesfannau Pelican. Un o’r prif wahaniaethau yw bod y signalau dyn coch a gwyrdd ychydig uwchben y bocs AROS yn hytrach nag ar ochr arall y ffordd. Dylai cerddwyr wasgu’r botwm ar y bocs. Mae synwyryddion arbennig ar groesfannau Pâl sy’n synhwyro pan fo person yn aros ac yn sicrhau nad yw’r traffig yn symud nes i’r holl gerddwyr groesi’r ffordd. Nid yw golau dyn gwyrdd yn fflachio i gerddwyr na golau ambr yn fflachio i yrwyr ar groesfannau Pâl.
Pelican (Croesfan i Gerddwyr wedi’i Rheoli â Goleuadau)
Rheolir croesfannau Pelican gan gerddwyr yn gwasgu’r botwm ar y bocs AROS. Dylai cerddwyr groesi pan fo’r dyn gwyrdd yn goleuo ac mae’r holl draffig wedi stopio. Mae sŵn blipiwr weithiau i helpu pobl ddall neu led-ddall i wybod pryd mae’n ddiogel i groesi. Fel arall, gallai fod bwlyn o dan y bocs AROS sy’n troi pan fo’r dyn gwyrdd yn goleuo. Ni ddylai cerddwyr ddechrau croesi os yw golau’r dyn gwyrdd yn fflachio.
Croesfan Sebra
Mae stribedi du a gwyn ar y groesfan hon (fel sebra) a goleuadau oren yn fflachio ar bob pen. Mae croesfan sebra’n rhoi hawl tramwy i gerddwyr pan fo’u troed ar y groesfan. Fodd bynnag, dylai cerddwyr ofalu er mwyn sicrhau bod amser gan y traffig i stopio cyn camu ar y groesfan a dylent barhau i edrych a gwrando wrth groesi. Mae llawer o bobl yn gofyn am newid croesfannau Sebra i groesfannau Pâl gan eu hystyried yn fwy diogel. Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos bod cofnod diogelwch y ddau fath yn debyg iawn, ac weithiau bod croesfannau Sebra’n fwy diogel.
Croesfan Twcan (Gall dau groesi)
Mae’r croesfannau hyn ar gyfer cerddwyr a beicwyr, fel arfer mewn lleoliadau lle mae llwybrau beicio’n croesi ffyrdd prysur. Maent yn debyg i groesfan Pâl gyda’r botwm i’w wasgu ar y bocs AROS. Ar groesfan Twcan mae signal beic coch a gwyrdd yn ogystal â’r dyn coch a gwyrdd mwy cyfarwydd. Y brif fantais i feicwyr yw nad oes angen iddynt ddod i lawr o’r beic i groesi. Mae synwyryddion ar groesfannau twcan hefyd i synhwyro pan fo cerddwyr yn defnyddio’r groesfan. Nid oes signal dyn gwyrdd yn fflachio a rhaid i yrwyr aros am olau gwyrdd.
Lloches i Gerddwyr
Mewn rhai lleoliadau lle na ellir cyfiawnhau croesfan i gerddwyr gellir rhoi lloches cerddwyr (ynys traffig) yn ei lle. Mae’r rhain yn culhau’r ffordd ac yn galluogi cerddwyr i groesi’r ffordd mewn dwy hanner gyda man diogel i aros yn y canol. Dylai cerddwyr ofalu wrth groesi gan fod blaenoriaeth i’r gyrwyr wrth ynysoedd traffig.