Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hysbysu am lwythi annormal

Diffinnir llwythi anormal yng Ngorchymyn Cerbydau Ffordd (Awdurdodi Mathau Arbennig) (Cyffredinol) 2003 a’r Gorchmynion Diwygio Dilynol fel unrhyw gerbyd sy’n drymach nag o leiaf un o’r cyfyngiadau canlynol:

  • Pwysau gros ros 40/44 tunnell fetrig
  • Uchder dros 5.03 medr
  • Lled dros 3.0 medr
  • Hyd dros 28.0 medr (Os yw’n gerbyd anhyblyg, caniateir uchafswm 18.75 medr)

Ein cyfrifoldebau

Fel awdurdod priffyrdd, rydym yn gyfrifol am awdurdodi holl symudiadau cerbydau llwythi annormal sy’n defnyddio ffyrdd a gaiff eu cynnal a’u cadw gan y cyngor - nid cefnffyrdd.

Dylid ein hysbysu am lwythi annormal gan ddefnyddio ffacs neu e-bost, 2-5 diwrnod cyn y symudiad arfaethedig. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. Bydd manylion y symudiad arfaethedig yn cael eu gwirio yn erbyn cofnodion uchder a chyfyngiadau pwysau pontydd, ac addasrwydd y llwybr a ddilynir.

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?