Ar-lein, Mae'n arbed amser
Hysbysu am broblem sydd yn ymwneud â phont
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn nodi problem cynnal a chadw are bont.
Rydym yn gyfrifol am gynnal a chadw strwythurau priffyrdd y Fwrdeistref Sirol, sy’n cynnwys pontydd, ceuffosydd, isffyrdd a waliau cynnal.
Mae’r adran cynnal a chadw pontydd yn gyfrifol am gynnal a chadw dros 116 o strwythurau a nifer o waliau cynnal sy’n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Fodd bynnag, nid yw holl bontydd Merthyr Tudful yn eiddo i’r Cyngor.
Caiff y rhai ar y cefnffyrdd, er enghraifft, eu cynnal a’u cadw gan Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Network Rail yn gyfrifol am gynnal a chadw’r rhan fwyaf o bontydd dros reilffyrdd.
Rydym yn archwilio’r 116 o strwythurau bob dwy flynedd i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn addas i’w diben. Gan ddefnyddio canlyniadau’r archwiliadau hyn, rydym yn blaenoriaethu, cynllunio ac atgyweirio’r strwythurau hyn.