Ar-lein, Mae'n arbed amser

Sgipiau Adeiladwyr ar y Priffyrdd

Ni ellir gadael sgip adeiladydd ar y priffyrdd heb ganiatâd yr awdurdod priffyrdd yn unol ag Adran 139 Deddf Priffyrdd 1980. Bydd yr Adain Priffyrdd yn codi tâl am ystyried cais i osod sgip ar y briffordd. Caniateir y tâl hwn o ganlyniad i gyflwyno Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Taliadau Trafnidiaeth) 1998.

Preswylwyr Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful  

Os ydych yn bwriadu llogi sgip, bydd rhaid i chi ofyn i un o’r cwmnïau sgipiau lleol. Yna, fe wnaiff y cwmni wneud cais i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol am ganiatâd i osod sgip ar y briffordd mor agos ag y gellir at eich safle.

Cwmnïau Sgipiau

Bydd rhaid i bob cwmni llogi sgipiau sy’n dymuno gadael sgip ar y briffordd ddarparu copi o’u polisi Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus cyfredol (gwerth £2,000,000 o leiaf) a’u trwydded gwaredu gwastraff. Pan ddaw’r polisi i ben, bydd rhaid iddynt anfon copi o’u polisi newydd.

Mae cost Hawlen gan yr Awdurdod yn £35 am bob cyfnod 2 wythnos ar hyn o bryd. Os bydd y gwaith yn para mwy na hyn, bydd angen hawlen arall.

Cysylltwch â Ni