Ar-lein, Mae'n arbed amser
Sgipiau Adeiladwyr ar y Priffyrdd
Trwydded sgip – Gwneud cais am drwydded
Er mwyn gosod sgip neu gynhwysydd ar briffordd gyhoeddus, mae’n rhaid i chi gael trwydded o’r awdurdod lleol. Ni all unrhyw berson na chwmni osod sgip neu gynhwysydd ar briffordd heb sicrhau trwydded yn gyntaf.
Crynodeb o’r Rheoliad
Mae’n rhaid i bob sgip neu gynhwysydd a osodir ar briffordd gael trwydded a roddwyd gan Dîm Priffyrdd y Cyngor. Perchennog y sgip/cynhwysydd yn unig a all wneud cais am drwydded. Ni all aelodau o’r cyhoedd wneud cais am drwydded am nad oes ganddynt yr yswiriant cywir ac nid oes modd iddynt gydymffurfio â rheoliadau sgip/cynhwysyddion. Os oes yn rhaid gosod sgip/cynhwysydd adeiladwr (pa un ai ydynt yn fach, yn ganolig neu’n fawr) ar y briffordd (ar hewl, ar bafin neu ar ymyl yr hewl/pafin) yna mae’n rhaid i berchennog y sgip/cynhwysydd sicrhau bod trwydded ganddynt.
Mae gosod sgip/cynhwysydd ar briffordd heb fod wedi gwneud cais am drwydded, a heb fod wedi derbyn trwydded, yn drosedd yn ôl Deddf Priffyrdd 1980 ac fe all perchennog y sgip/cynhwysydd gael ei erlyn o ganlyniad i hynny. Mae gan berchennog y sgip/cynhwysydd gyfrifoldeb dros sicrhau bod pob sgip/cynhwysydd yn cael eu gosod ar briffyrdd mewn modd nad sy’n achosi rhwystr i ddefnyddwyr eraill yr hewl.
Mae darparwyr y sgip/cynhwysydd yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth i’r holl reoliadau ac amodau perthnasol.
NID cyfrifoldeb deiliaid y tŷ na’r adeiladwr na’r contractwr yw sicrhau trwydded sgip/cynhwysydd, ond dylent fod yn argyhoeddedig bod perchennog y sgip wedi derbyn caniatâd dilys ar gyfer gosod sgip/cynhwysydd ar y briffordd, gan y Cyngor.
Y broses ymgeisio
Os hoffech osod sgip/cynhwysydd ar yr hewl y tu allan i’ch tŷ, cysylltwch â darparwr eich sgip/cynhwysydd yn y lle cyntaf.
Wrth ystyried ceisiadau o’r fath, bydd yn rhaid i’r Tîm Priffyrdd asesu sawl ffactor, ac efallai na fyddant yn gallu rhoi caniatâd bob tro.
Gall trwydded fod yn ddilys am 1 diwrnod hyd at 14 diwrnod calendr. Mae’n rhaid gwneud ceisiadau ychwanegol ar gyfer cyfnodau hirach. Dim ond un sgip/cynhwysydd byddwn yn caniatáu mewn lleoliad ar unrhyw adeg, heblaw mewn amodau eithriadol.
Ni ddylai sgipiau/cynwysyddion a osodir ar briffordd gynnwys unrhyw ddeunydd fflamadwy, ffrwydrol na niweidiol, nac unrhyw beth sy'n debygol o achosi niwsans i ddefnyddwyr y briffordd. Dylid cadw cynnwys y sgip yn "wlyb" neu ei orchuddio i atal llwch neu ollyngiadau ar y briffordd. Ni ddylid gorlwytho'r sgip a rhaid ei symud pan fydd yn llawn.
Dalier sylw: Er budd y cyhoedd y mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais a rhoi rhif trwydded cyn y gellir gosod y sgip/cynhwysydd ar y briffordd. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol o amser:
- Gwnewch gais am Drwydded Sgip gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
- Gwnewch gais am Drwydded Sgip
Cyn bod trwydded yn cael ei rhoi
Sicrhewch eich bod chi wedi anfon y dogfennau perthnasol, hynny ydy: Copi o yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus a Chyflogwr dilys am £10 miliwn yr un a chopi o'ch trwydded cludo gwastraff drwy e-bost at Highways.CustomerCare@merthyr.gov.uk
Costau
Mae’r penderfyniad ynghylch trwydded (pa un ai i’w derbyn ei gwrthod/ ei diddymu neu fel arall) yn costio £44 ac nid oes modd cael eich arian yn ôl. Mae’r drwydded yn ddilys am gyfnod o 14 diwrnod calendr. Bydd unrhyw gyfnod sy’n dilyn hynny yn costio £44 am bob 14 diwrnod calendr o hynny ymlaen (nid oes modd cael yr arian hwn yn ôl ychwaith)
Amserlen
Mae’n cymryd isafswm o ddau ddiwrnod gwaith i brosesu trwydded ar gyfer sgip.
Ceisiwch am drwydded sgip drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein