Ar-lein, Mae'n arbed amser

Storio deunyddiau adeilad ar y Briffordd

Os ydych yn ystyried storio deunyddiau adeiladu tebyg i friciau neu sachau tywod ar y briffordd, bydd rhaid i chi wneud cais am drwydded deunyddiau o flaen llaw. Mae’n drosedd i osod un rhywbeth ar y briffordd heb ganiatâd gan yr Awdurdod Priffyrdd Lleol (Deddf Priffyrdd 1980, adran 169.) Mae’n anghyfreithlon i storio  unrhyw ddeunyddiau heb drwydded a gallant, o ganlyniad gael eu symud a gellir cymryd camau cyfreithlon yn eich erbyn. Os dymunwch storio deunyddiau ar eich ffordd breifat ni fydd angen trwydded arnoch.

Mae angen 5 diwrnod gwaith arnom i ystyried a phrosesu cais am drwydded neu adnewyddu trwydded. 

Y gost am ddarparu trwydded yw £35.00.  Bydd y drwydded yn ddilys am 28 diwrnod. 

Cyn i’r drwydded gael ei chymeradwyo, bydd cyfarfod safle yn cael ei drefnu gan swyddog y priffyrdd â’r preswylydd. Gellir archwilio’r safle am unrhyw ddifrod sydd eisoes yn bodoli a bydd unrhyw amodau ychwanegol yn cael eu pennu tra ar y safle. Bydd y safle yn cael ei archwilio trwy gydol cyfnod y drwydded er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio ag amodau diogelwch y drwydded. Bydd archwiliad safle terfynol yn cael ei wneud ar ddiwedd cyfnod y drwydded, wedi i’r deunyddiau gael eu gwaredu er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddifrod i’r briffordd.

Ni ddylid gosod deunyddiau ar y safle cyn i’r archwiliad gael ei gwblhau a chyn i’r drwydded gael ei dyroddi.

Lawr lwythwch a chwblhewch y ffurflen a atodir a’i e-bostio i highways.customercare@merthyr.gov.uk. Byddwn yn cysylltu â chi er mwyn trefnu’r taliad.

Cysylltwch â Ni