Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynnal a chadw - arolygon strwythurol
Arolygon Mecanyddol o Gyflwr Ffyrdd
Gwneir archwiliadau SCANNER a SCRIM ar ran adain priffyrdd y Cyngor Bwrdeistref Sirol. Gwneir yr archwiliadau strwythurol hyn ar ran yr Awdurdod gan gontractwyr arbenigol yn bennaf, yn defnyddio cerbydau ac offer soffistigedig iawn i wneud yr arolygon.
Mae peiriannau arolygu SCANNER yn casglu amrywiaeth o ddata ar geometreg ffyrdd, fel graddiant, goleddf croes a chrymedd.
Mae SCRIM (Sideways force Coefficient Routine Investigation Machine) – yn cael ei ddefnyddio i fesur gwrthsafiad wyneb ffyrdd i sglefriad mewn amodau gwlyb.
Cofrestr Atgyweirio Strwythurol
Mae'r Grŵp Rhwydwaith Priffyrdd yn dadansoddi canlyniadau'r arolygon hyn ac yn ychwanegu unrhyw ofynion cynllun i gofrestr atgyweirio strwythurol. Mae'r gofrestr yn flaenraglen o waith canfyddedig y mae cyllideb wedi, ac heb, ei nodi ar ei gyfer. Mae pob cynllun yn cael ei brisio a'i flaenoriaethu ar y gofrestr er mwyn i'r gwaith fynd yn ei flaen, os oes cyllid ar gael.
Mae'n ofynnol i bob swyddog priffyrdd gofnodi, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, gwaith fydd ei angen yn y dyfodol, y maent wedi ei ganfod eu hunain o ganlyniad i arolygon priffyrdd ffurfiol neu anffurfiol, a chynnwys manylion y gwaith hwn yn y gofrestr atgyweirio strwythurol.