Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ordyfiant llystyfiant, coed neu wrychoedd sy’n bargodi

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn hysbysu am lystyfiant, goed neu gloddiau sydd wedi gordyfu.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gyfrifol am goed a chloddiau sy’n tyfu ar leiniau mabwysiedig y priffyrdd. Fodd bynnag, yn y mwyafrif o achosion, cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw’r   cloddiau a’r coed sy’n ffinio â’r ffyrdd. Mae lleiniau’r priffyrdd yn cael eu torri er mwyn sicrhau diogelwch ar y ffyrdd a sicrhau gwelededd ar gyffyrdd ac er mwyn darparu lle i bobl gerdded ar y palmant.

Rydym yn gweithredu archwiliadau cyson o’r ffyrdd ac fel rhan o’r broses honno, rydym yn ceisio nodi lleiniau gwyrdd sydd wedi gordyfu ac a fedrai, o ganlyniad fod yn beryglus i ddefnyddwyr y ffyrdd.

Noder nad yw’r awdurdod yn cynnal y gefnffyrdd – A470, A4060 a’r A465 (Ffordd Blaenau’r Cymoedd). Cyfrifoldeb Asiant Cefnffyrdd De Cymru yw’r ffyrdd hyn a dylid rhoi gwybod iddynt yn uniongyrchol

Lleiniau
  • Rydym yn torri stribyn o lain oddeutu un metr o led ar hyd y ddwy ochr o’r ffordd
  • Rydym yn cynnal gwelededd ar gyfer defnyddwyr y ffyrdd, yn enwedig ar gyffyrdd, lleiniau gwelededd a chroesffyrdd
  • Rydym yn cadw arwyddion traffig yn glir
  • Rydym yn sicrhau fod lle i gerddwyr, y sawl sy’n marchogaeth ceffylau a beicwyr fedru pasio   

Mae lleiniau yn darparu cynefinoedd pwysig ar gyfer amryw o rywogaethau o drychfilod ac anifeiliaid. O ganlyniad, rydym yn torri lled cyfyngedig o leniau gwledig unwaith y flwyddyn yn unig. Drwy gyfyngu ar led y toriad, gall y llain sy’n weddill ddarparu cynefin bwysig ar gyfer blodau a bywyd gwyllt.

Mae’r Cyngor yn trefnu y bydd un o dimoedd y parciau’n torri’r gwair. Ariannir hyn yn flynyddol gan gyllideb cynnal a chadw’r priffyrdd er mwyn sicrhau fod torri gwair yn parhau trwy gydol y tymor tyfiant.

Am wybodaeth bellach gweler ein gwybodaeth am gyfrifoldebau’r Tirfeddiannwr.

Oeddech chi’n chwilio am?