Ar-lein, Mae'n arbed amser
Parcio ar Balmentydd
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i gadw’r ffyrdd a’r llwybrau troed mewn cyflwr diogel i’w defnyddio.
Bydd cerbydau wedi’u parcio’n anghyfreithlon yn achosi gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod i’r Cyngor yn flynyddol, gan ddifrodi palmentydd ac ymylon ffyrdd, ac achosi problemau difrifol i bobl ddall ac anabl a phobl hŷn.
Pa gamau mae’r Cyngor yn eu cymryd i atal parcio ar balmentydd?
Os oes cyfyngiadau aros (llinellau melyn) ar y briffordd sydd wrth ymyl y palmant, rhoddir Rhybudd Tâl Cost oherwydd mae parcio cerbyd fel hyn yn groes i’r gorchymyn traffig. Mae cyfyngiadau aros yn berthnasol i’r briffordd o ganol y briffordd i gefn y briffordd.
Os nad oes cyfyngiadau aros ar y briffordd sydd wrth ymyl y palmant, nid oes gan y Cyngor unrhyw bwerau i weithredu, a dylid dwyn hyn i sylw’r Heddlu, oherwydd mae’n gyfystyr â rhwystr.
Pam mae parcio ar balmentydd yn broblem?
Adeiladir a darperir palmentydd i’w defnyddio gan gerddwyr.
Mae cerbydau wedi’u parcio ar balmentydd:
- Yn beryglus i gerddwyr trwy achosi rhwystr a all eu gorfodi i gamu oddi ar y palmant ai fynd ar y ffordd, ac felly byddant yn peryglu eu hunain
- Yn achosi perygl trwy leihau led y palmant a’i gwneud yn anodd i rywun â chadair wthio neu gadair olwyn i basio’n ddiogel – unwaith yn rhagor, efallai y bydd rhaid i’r person hwn gamu ar y briffordd i osgoi’r rhwystr
- Yn achosi perygl yn sgil y difrod a achosir yn sgil gyrru ar y palmant ac oddi arno – difrodi cerrig palmant ac ati