Ar-lein, Mae'n arbed amser

Palmentydd - anaf personol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gyfrifol am gynnal a chadw rhwydwaith diogel o ffyrdd cerbydau a llwybrau troed yn ei ardal, ac eithrio’r cefnffyrdd, y mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol amdanynt.

Dylid dweud wrth y Cyngor cyn gynted â phosibl am ddiffygion yn y briffordd er mwyn gallu cymryd camau’n brydlon i wneud y gwaith atgyweirio. Os nad yw’r Cyngor yn cynnal a chadw’r ffordd gerbydau/llwybr troed bydd yr wybodaeth gennych yn cael ei anfon at y bobl berthnasol i ymchwilio. Ar gais cewch wybod am bwy y dylid atgyweirio’r diffyg ac at bwy y dylid cyfeirio’r cais am iawndal.

Os ydych o’r farn eich bod wedi dioddef colled neu anaf ac yn dymuno hawlio yn erbyn y Cyngor, ffoniwch y rhif ar waelod y dudalen hon a byddwn yn anfon y ffurflen berthnasol atoch. Nid yw rhoi’r ffurflen hon gyfystyr â’r Cyngor yn cyfaddef atebolrwydd.

Mae angen cymaint o wybodaeth arnom â phosibl i ymateb i’ch cais:

  • Eich enw a’ch rhif cyswllt
  • Enw’r stryd a’r ardal
  • Lleoliad ar y stryd, er enghraifft ar y ffordd neu’r llwybr troed, ger tŷ, colofn goleuadau stryd â rhif neu gyffordd?
  • Disgrifiad a manylion am y digwyddiad/diffyg
  • Dyddiad ac amser bras y digwyddiad
  • Manylion am unrhyw anafiadau a gafwyd

Am ragor o wybodaeth a/neu gyngor cysylltwch â’r Cyngor ar y manylion isod neu’n ysgrifenedig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Adran Yswiriant, Canolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF48 8AN.

Arolygir y rhwydwaith priffyrdd am ddiffygion yn rheolaidd gan dîm o Arolygwyr Priffyrdd. Pennir amledd yr archwilio gan ganllawiau a nodwyd yn y Cynllun Rheoli’r Rhwydwaith Priffyrdd.