Ar-lein, Mae'n arbed amser

Adrodd am geudyllau

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn nodi twll yn y ffordd.

NODER: nad yw’r awdurdod yn cynnal y gefnffyrdd – A470, A4060 a’r A465 (Ffordd Blaenau’r Cymoedd). Cyfrifoldeb Asiant Cefnffyrdd De Cymru yw’r ffyrdd hyn a dylid rhoi gwybod iddynt yn uniongyrchol ymlaen ffon 0300 1231213
Beth yw ceudyllau?

Caiff Ceudyllau eu hachosi gan amryw o resymau, boed yn fethiant ar yr arwyneb neu’r is-wyneb.

Mae ceudyllau’n beryglus i ddefnyddwyr ffordd a cherddwyr, gan fod y risg o ddifrodi cerbyd ac o gael anaf yn cynyddu. Os nad ydynt yn cael eu trin, gall ceudyllau ddirywio, cynyddu yn eu maint ac effeithio ar rannau eraill o arwyneb y ffordd.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gyfrifoldeb i gynnal a chadw ei phriffyrdd am gost sy’n rhesymol i’r cyhoedd (Deddf Priffyrdd 1980 - S. 41) ac mae bron yr holl hawliadau ceudyllau a gaiff eu gwneud yn erbyn yr awdurdod yn codi yn sgil torri amodau’r adran hon o’r Ddeddf Priffyrdd.

Beth yw’r broses o ddelio â cheudyllau a sut ydym ni’n blaenoriaethu?

Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch, er y bydd yna achlysuron yn ystod llifogydd ac eira trwm ayb pan y bydd amodau hinsawdd yn datgan na fydd y dull gweithredu arferol yn bosibl.

Y man cychwyn arferol i atgyweirio diffyg yw archwiliad gweledol gan Arolygwr Priffyrdd, fel rhan o’i archwiliad diogelwch arferol neu o ganlyniad i gais gwasanaeth oddi wrth y cyhoedd.

Os yw’r meini prawf ymyrryd yn arwain at ‘weithredu’, yna byddai’r arolygydd yn marcio o gwmpas y diffyg a chyhoeddi gorchymyn gwaith i’r tîm cynnal a chadw priffyrdd.

Ar ôl i chi roi gwybod am geudwll, bydd archwiliwr yn ymweld â’r safle i asesu a oes angen gwneud gwaith yno.

Oeddech chi’n chwilio am?