Ar-lein, Mae'n arbed amser

Sgaffaldau a Byrddau Hysbysebu

Preswylwyr Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Wrth wneud unrhyw waith adeiladu/cynnal a chadw neu waredu unrhyw ran o eiddo sydd wrth ymyl priffordd gyhoeddus (ffordd, palmant neu lôn gefn), bydd diogelwch holl ddefnyddwyr y priffyrdd o’r pwys mwyaf.

Cwmnïau Sgaffaldiau

Bydd rhaid i unrhyw gwmni sgaffaldiau sy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd i godi sgaffaldiau neu fyrddau hysbysebu ar y briffordd ddarparu copi o’u polisi Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus cyfredol (gwerth £2,000,000 o leiaf). Pan ddaw’r polisi i ben, bydd rhaid iddynt anfon copi o’u polisi newydd.

Dylid rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd wrth wneud cais am ganiatâd, ac ni ellir

codi unrhyw sgaffaldiau na byrddau hysbysebu cyn y rhoddir y caniatâd hwn.

Mae cost trwydded gan yr Awdurdod yn £35 am bob cyfnod 4 wythnos ar hyn o bryd. Os bydd y gwaith yn para mwy na hyn, bydd angen trwydded arall.

I gael rhagor o wybodaeth, defnyddiwch y ffurflen gysylltu â ni ar ochr y dudalen hon

Cysylltwch â Ni