Ar-lein, Mae'n arbed amser

Lleiniau

Eich cyfrifoldeb chi fel Tirfeddiannwr

Mae perchnogion yn gyfrifol am goed/llystyfiant ac ati sy’n tyfu ar eu tir a’u cyfrifoldeb hwy yw sicrhau eu bod wedi eu torri ac nad ydynt yn amharu ar y briffordd. Fel arfer, mae coed, cloddiau a llystyfiant yn cael eu cadw i safon sy’n dderbyniol. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd bydd rhaid i dirfeddiannwyr gael eu hatgoffa o’u cyfrifoldebau ac mae gennym bwerau o dan Adran 154 o Ddeddf Priffyrdd 1980 i gyflwyno hysbysiad er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw ar goed a llystyfiant bargodol allai effeithio ar ddiogelwch y briffordd. Bydd perchnogion yn cael amser digonol i gwblhau’r gwaith cychwynnol cyn y bydd hysbysiad ffurfiol yn cael ei gyflwyno.

Gofod Uchder

Palmentydd - 2.1 metr. Dylai’r lled fod yn ddigonol i ganiatáu i gerddwyr, defnyddwyr cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn ac ati i fedru tramwyo’n ddiogel.

Ffyrdd – onibai bod Gorchymyn Traffig mewn grym, yn cyfyngu ar faint ac uchder cerbydau sy’n cael defnyddio ffordd benodol, dylid cadw gofod uchder o 5.2 metr er mwyn sicrhau fod digon o ofod ar gyfer cerbydau sydd, fel arfer yn cael mynediad i’r ffordd.

Goleuadau’r Stryd

Dylai perchnogion sicrhau nad oes deiliach yn amharu ar oleuadau’r stryd gan fod hyn yn effeithio ar lefelau goleuo’r ddaear. Dylai llystyfiant yn ogystal gael ei dorri yn ôl er mwyn caniatáu mynediad i ddrysau yng ngholofnau’r goleuadau fel y gall gwaith cynnal a chadw gael ei gwblhau’n gyson.

Gwreiddiau Coed

Gall gwreiddiau o goed preifat dyfu drwy ffiniau eiddo a niweidio palmentydd a ffyrdd. Perchennog yr eiddo sy’n gyfrifol am unrhyw gostau i atgyweirio’r palmentydd neu’r ffyrdd.

Coed marw neu sydd ar fin marw

Mae gennym gyfrifoldeb i gadw priffyrdd ar agor a symud unrhyw rwystrau peryglus posib tebyg i goed marw neu sydd ar fin marw oddi yno. Os na all y tirfeddiannwr weithredu, byddwn mewn rhai achosion yn difa’r goeden a’r tirfeddiannwr fydd yn talu’r gost o wneud hynny.

Coed sydd wedi cwympo

Er mwyn ein hysbysu am goeden sydd wedi cwympo ar y ffordd neu’r palmat, defnyddiwch ein Ffurflen Hysbysu Ar-lein.

Cyn i chi drefnu unrhyw waith ar eich coeden:

Cysylltwch â ni bob amser er mwyn gwirio nad yw’r coed wedi’u diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed, cyfyngiadau cynllunio neu eu bod mewn Ardal Gadwriaethol.

  • Dylid cyflogi meddyg coed proffesiynol sy’n meddu ar Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus (gofynnwch i weld copi ohono.) Dylai meddygon coed proffesiynol bob amser feddu ar rhyw fath o gerdyn adnabod eu bod yn gymwys i gwblhau’r gwaith (eto, gofynnwch am gael gweld hwn.) Peidiwch byth â chyflogi pobl sy’n galw yn y tŷ neu sy’n rhoi pamffledi trwy’r drws ac sy’n honni eu bod yn feddygon coed.