Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cau Ffordd yn Barhaol
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ofyn am gau ffordd yn barhaol
Gellir prosesu cau ffordd barhaol o dan ddwy ddeddf Seneddol:
- Deddf Priffyrdd 1980
- Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
Priffordd yn ddiangen
O dan Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980, gall Cyngor Merthyr wneud cais i'r Llys Ynadon, ar ran yr ymgeisydd, am orchymyn i stopio'r briffordd os mai'r rheswm dros y cau yw bod y briffordd yn cael ei hystyried yn ddiangen a bod llwybr amgen agosach neu'n fwy priodol ar gael i'r cyhoedd.
Cau Parhaol Eraill
Mae adran 247 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn caniatáu cau neu ddargyfeirio priffordd os yw Cyngor Merthyr yn fodlon ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn caniatáu i ddatblygiad gael ei wneud yn unol â chaniatâd cynllunio a roddir.