Ar-lein, Mae'n arbed amser

Asbestos

Beth yw asbestos?

Mae’n fwyn a gaiff ei gloddio’n naturiol ac a gaiff ei ddefnyddio oherwydd ei briodweddau o fod yn wrthydd gwres a chemegau, ei gryfder mawr a’r ffaith ei fod bron yn annistryw. Mae sawl math gwahanol (a elwir yn gyffredin yn wyn, glas a brown) ond nid yw bod yn ymwybodol o’r math yn gwneud llawer o wahaniaeth ymarferol.

Am beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Mae’n debygol y bydd adeiladau a adeiladwyd o’r 1950au i ddiwedd y 1970au yn cynnwys asbestos er efallai nad yw’n amlwg. Er nad yw asbestos yn cael ei ddefnyddio bellach mewn deunyddiau adeiladu, yn gymharol ddiweddar y dechreuodd hyn a chafodd rhai deunyddiau eu gwneud gan ddefnyddio asbestos mor hwyr â 1999.

Mae ar gael mewn toi sment rhychiog, paneli mewn waliau a nenfydau, drysau tân, ffelt to, teils llawr ac araenau addurnol gweadog. Lleoliad cyffredin iawn arall yw ystafelloedd boeler, naill ai fel ynysydd neu yn strwythur yr ystafell.

Ydy pob asbestos yn beryglus?

Mae potensial o hyd i’r ffibrau eu hunain fod yn niweidiol i iechyd ac maen nhw’n gallu achosi afiechydon difrifol ac weithiau angheuol gan gynnwys asbestosis a mesothelioma. Fodd bynnag, nid fydd pob deunydd sy’n cynnwys asbestos yn rhyddhau ffibrau – mae’n dibynnu ar eu cyflwr a’u lleoliad. Rhyddheir y ffibrau i’r aer fel arfer pan gaiff cynnyrch asbestos ei drafod, ei storio neu ei gludo’n gam wrth gael gwared arno.

Oes angen cael gwared ar yr holl asbestos?

Nac oes, yn wir gall hyn greu rhagor o broblemau’n aml. Os yw’r deunydd mewn cyflwr cyflawn neu os yw wedi’i amgylchynu/amgáu rywsut mae fel arfer yn saffach ei gadw’n llonydd. Mae galw ar y rheini sy’n gyfrifol am safleoedd busnes i nodi ble mae asbestos (neu ei farcio â label) er mwyn gallu cymryd camau rhagofal os oes angen gwneud gwaith a all effeithio arno.

Rhaid i gontractwyr trwyddedig gael gwared ar rai mathau o asbestos. Nid oes rhaid i hyn ddigwydd gyda mathau eraill – megis toi sment rhychiog, er rhaid gwneud y gwaith yn ddiogel. Am ragor o gyngor ar hyn cysylltwch â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 0845 345 0055.

Beth yw’r gofynion cyfreithiol?

Nid oes dyletswydd gyfreithiol gan berchnogion tai heblaw am gael gwared ar unrhyw asbestos yn ddiogel, ond rhaid i fusnesau a sefydliadau bellach gymryd camau i nodi’r asbestos ar eu safleoedd. Byddai hyn fel arfer yn digwydd trwy arolwg, ond nid oes rhaid iddo gynnwys cymryd sampl bob tro. Mae angen wedyn i’r busnes reoli unrhyw asbestos er mwyn iddo beidio â dod yn broblem, ac efallai bydd angen trefnu cael gwared ar unrhyw asbestos sy’n peri perygl.

Ydy’r Cyngor yn casglu asbestos?

Yn anffodus yn sgil problemau o ran cael wared arno, nid oes gwasanaeth gan y Cyngor i gasglu Asbestos o dai.

Ble gellir cael gwared ar asbestos?

Os yw’n wastraff o eiddo domestig, gellir mynd ag ef i un o safleoedd amwynder y Cyngor naill ai ar Heol Greigiog, Penydarren neu Y Llwyn, Aberfan. Dylai deiliad y tŷ gysylltu â’r safle trwy ffinio’r safle’n gyntaf i drefnu amser i fynd yna, rhaid i’r gwastraff fod mewn bag dwbl.

Rhaid cael gwared ar wastraff asbestos o unrhyw fusnes neu fasnach mewn safle asbestos trwyddedig – mae’r rhain yn brin iawn yn y DU felly’r cam gweithredu gorau byddai cysylltu â chontractwr cael gwared ar asbestos trwyddedig – gweler Yellow Pages.

Cysylltwch â Ni